Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth i ddau wrthdrawiad traffig ‘difrifol’ a ddigwyddodd brynhawn dydd Sul.
Cafodd dyn yn ei bumdegau o ardal Wrecsam ei gludo i Ysbyty Stoke mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol sy’n peryglu ei fywyd wedi gwrthdrawiad ger Capel Curig ar yr A5.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd – dau gar, fan a beic modur tua 13.50 dydd Sul tu allan i Gaffi Siabod.
Yna, yn ardal Maentwrog, Blaenau Ffestiniog tua 15.30 digwyddodd gwrthdrawiad arall a oedd hefyd yn cynnwys beic modur.
Cafodd dyn yn ei dridegau o ardal Caer ei gludo mewn Ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle mae’n dioddef anafiadau difrifol i’w goes.
Mae’r Heddlu’n galw ar dystion i’r ddau wrthdrawiad gysylltu â Swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101.
Neu, mae modd cysylltu trwy Daclo’r Taclau gan ddyfynnu cyfeirnod U054960 ar gyfer gwrthdrawiad Capel Curig, a U055009 ar gyfer gwrthdrawiad Maentwrog.