Gwaith dur Port Talbot
Ym Mrwsel heddiw, fe fydd Ysgrifennydd Busnes y DU yn cyfarfod â gweinidogion o bob cwr o’r byd i drafod argyfwng y diwydiant dur.
Fe fydd Sajid Javid yn trafod â chymheiriaid o China, India a 27 o genhedloedd eraill i geisio dod o hyd i ddatrysiad i effaith gor-gynhyrchu dur.
Mae’r cyfarfod wedi’i drefnu gan Lywodraeth Gwlad Belg a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Mae disgwyl i Weinidogion o’r UDA, yr Almaen, Siapan a chynrychiolwyr o’r Undeb Ewropeaidd, Sefydliad Masnach y Byd, Asiantaeth Dur y Byd a’r sector breifat fod yn bresennol hefyd.
“Mae dympio dur o China yn fater byd-eang, a phwrpas y cyfarfod yw trafod y gor-gynhyrchu,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Fusnes, Arloesedd a Sgiliau.
‘Datrysiad i’r argyfwng’
Un o brif amcanion y cyfarfod yw trafod sut y gall llywodraethau hwyluso ailstrwythuro’r diwydiant, gan geisio dod i gytundeb ar gamau i leihau “polisïau ystumio cystadleuaeth.”
Ym mis Mawrth eleni, fe gyhoeddodd y cwmni dur o India, Tata, ei fod am werthu’r asedau yn y DU oherwydd yr effaith ar brisiau yn sgil “dympio dur rhad” o China.
O ganlyniad, mae miloedd o swyddi yn y fantol, ac fe fydd yn effeithio ar weithfeydd dur Port Talbot a busnesau o fewn y gadwyn gyflenwi.
Mae’r Llywodraeth wedi wynebu pwysau i ddod o hyd i ddatrysiad i’r argyfwng drwy ystyried gwladoli’r diwydiant yn rhannol a ‘buddsoddi ar y cyd’ ynddo.
Yn y cyfamser, mae adroddiadau’n honni fod y defnydd o ddur wedi disgyn yn 2015.