Bydd yr awdur Llwyd Owen yn lansio ei ddegfed nofel mewn deng mlynedd y prynhawn yma yn Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd am 3 o’r gloch.
Nofel anturus yw Taffia sydd yn trafod twyll, trais a dial, perthnasau, edifar a methiant.
Mewn gwlad debyg iawn i’r Gymru gyfoes, mae’r ditectif Danny Finch yn colli ei swydd ar ôl cael ei gyhuddo o dwyll. Rhaid iddo dderbyn gwaith fel swyddog diogelwch i’r dihiryn Pete Gibson, er mwyn y wraig a’r mab y mae’n meddwl y byd ohonynt. Ond, ar ôl gwrthod cyfle i fod yn rhan o’r ‘busnes’ anghyfreithlon, mae ei fos yn cynllwynio yn ei erbyn.
Bydd Danny Finch yn adnabyddus i rai o ddarllenwyr ffyddlon Llwyd Owen fel cymeriad ymylol yn y nofelau Mr Blaidd a Heulfan.
Daw Llwyd Owen o Gaerdydd yn wreiddiol ac mae’n dal i fyw yno hyd heddiw.
“Doedd dim cynllun nac uchelgais benodol gennyf pan gychwynnais gyhoeddi nofelau yn 2006, ond rhaid cyfaddef fy mod i’n reit falch o’r hyn rydw i wedi ei gyflawni,” meddai. “Beth bynnag sy’n digwydd yn y dyfodol, gallaf edrych yn ôl â balchder ar y ddegawd ddiwethaf.”
Bydd y lansiad yn cynnwys cerddoriaeth byw gan Colorama.