Bydd dros 200 o blant a phobol ifanc yn cymryd rhan mewn sioeau cerdd i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Sir y Fflint ymhen mis a hanner.
Dwy sioe fydd yn cael eu llwyfannu yn ystod yr wythnos, gydag un yn addasiad Cymraeg o sioe gerdd ‘Hairspray’ a’r llall yn tywys y gynulleidfa o amgylch Sir y Fflint gan ddefnyddio caneuon ‘Rimbojam’ Caryl Parry Jones.
Mae disgwyl i berfformiad ‘Fflamau Fflint’ gael ei chynnal ar bafiliwn yr ŵyl ieuenctid nos Fawrth 31 Mai, ac fe fydd sioe ‘Hêrspre’ yn cael ei lwyfannu yn theatr Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn nos Sadwrn 28 Mai a nos Lun 30 Mai.
Cân newydd Caryl
Fe fydd sioe ‘Fflamau Fflint’ yn dilyn cymeriad o’r enw ‘Dai’ a’i hynt a’i helynt ef wrth iddo grwydro bro’r Eisteddfod.
“Mi oeddem yn awyddus i ddefnyddio caneuon ‘Rimbojam’ Caryl Parry Jones fel sail i’r cynhyrchiad gan eu bod yn ganeuon gwych a nifer o blant yr ardal eisoes yn gyfarwydd gyda nhw,” meddai Einir Haf, sydd yn Ddirprwy yn Ysgol Glanrafon ac wedi cyd-gynhyrchu’r sioe.
“Mae Mali Williams wedi creu sgript arbennig o amgylch y caneuon, sydd yn tywys y prif gymeriad, Dai, o amgylch Sir y Fflint.
“Rydym hefyd yn falch iawn fod Caryl Parry Jones wedi cyfansoddi cân newydd sbon i gloi’r sioe, sef Fflamau Fflint.”
Jade yn ysbrydoliaeth
Ymysg y prif gymeriadau yn y sioe mae ‘Dai’, sy’n cael ei chwarae gan Jamie Molloy o Ysgol Croesatti, ‘Mari’ sef Alys Jones o Ysgol Glanrafon, y bwli ‘Twm Dyrnau’ sef Ioan Jones o Ysgol Gwenffrwd, a ‘Gwenffrewi’ sydd yn cael ei chwarae gan Freya Wheeler o Ysgol Croesatti.
Cadi Davies, disgybl yn Ysgol Glanrafon, sydd yn actio’r athrawes ddiflas ‘Miss Pugh’ yn sioe.
“Mae Miss Pugh yn ddynes ddiflas sydd yn hoffi areithio am lot o bethau hen ffasiwn,” esboniodd Cadi.
“Ond ar y diwedd mae’n dweud ei bod yn arfer gweithio gyda Jade Jones ac yn gwneud symudiadau taekwondo felly dw i’n gorfod dysgu ychydig o taekwondo ar gyfer diwedd y sioe!”
‘Negeseuon pwysig’
Ar gyfer y fersiwn Gymraeg o’r sioe gerdd boblogaidd ‘Hairspray’ fe fydd Mari Wyn Jones, disgybl Blwyddyn 8 o Ysgol Maes Garmon, yn chwarae rhan y prif gymeriad ‘Tracey Turnblad’.
Bydd 60 o bobol ifanc ysgolion uwchradd y sir hefyd yn ymuno â hi yn y sioe, gafodd ei chyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf gan Ysgol Maes Garmon yn 2008.
“Mae hon yn sioe gymhleth ac mae yna nifer o negeseuon pwysig ynddi o ran lliw croen, y pwysau sydd yna ar y teledu i fod yn denau a hardd felly mae lot yn mynd ymlaen,” meddai Nia Wyn Jones, Pennaeth Cerdd Ysgol Maes Garmon, sydd yn cynhyrchu’r sioe.
“Mae’n dipyn o her ei chael yn barod gan mai unwaith yr wythnos ydym ni yn cwrdd ond dw i’n hyderus y gwnawn ni chwip o berfformiad.”