Ceredig ap Dafydd
Mae cerflunydd o Abertawe yn edrych ymlaen at ei arddangosfa gyflawn gyntaf yng Nghaerfyrddin y mis hwn.
Ag yntau’n gerflunydd sy’n ymhél â deunyddiau confensiynol – yn goncrit, pren, cerrig a metelau o bob math – daw ysbrydoliaeth Ceredig ap Dafydd o’r byd adeiladu.
Mae ei gerfluniau’n archwilio posibiliadau celfyddydol y byd adeiladu gan ganolbwyntio ar ‘fywyd llonydd’ yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol.
“Maen nhw’n cynrychioli’r pethau rydym ni’n gweld bob dydd, ond ddim yn cymryd sylw ohonyn nhw, efallai,” meddai’r artist 26 oed sydd wedi bod yn gweithio ar y casgliad ers rhyw bedair blynedd bellach.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio i asiantaeth adeiladu yng nghyffiniau Abertawe er mwyn ennill arian gynnal ei waith celf.
Mae’n ymddiddori mewn gwaith saer, ac wedi labro a gweithio i of o’r blaen hefyd.
“Dw i wedi gweithio mewn amryw o lefydd ac, ar hyn o bryd, dw i’n labro ar wahanol safleoedd.
“Dyw e ddim byd i wneud gyda fy ngwaith celf, ond eto mae’n rhyw fath o ysbrydoliaeth,” meddai.
“Mae’n help i weld sut mae pethau’n gweithio a sut mae mynd ati i adeiladu a rhoi pethau at ei gilydd.”
Ychwanegodd fod y cwmni’n gweithio ar safle newydd Ysgol Baglan ym Mhort Talbot ar hyn o bryd, ond yr her fwya’ i Ceredig ap Dafydd yw dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng hel arian a neilltuo amser i gerflunio.
“Dyna pam dw i’n meddwl ei bod hi wedi cymryd mor hir i fi i wneud yr arddangosfa hon.”
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn arlunio o oedran cynnar, ond ar ôl hyfforddi yng Ngholeg y Celfyddydau Camberwell, Prifysgol Llundain, y dechreuodd ei wir ddiddordeb mewn cerflunio.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld yr arddangosfa, a dw i’n gobeithio datblygu mwy ar y berthynas rhwng cerflunio ac adeiladu yn y dyfodol.”
Stori: Megan Lewis
Bydd Bywyd llonydd yn yr oes ôl-ddiwydiannol yn Oriel Kings Street, Caerfyrddin, tan Ebrill 21.