Efallai na fydd maes traddodiadol yng Nghaerdydd (llun G360)
Fe fydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyfarfod fory i benderfynu a fydd Eisteddfod Caerdydd 2018 yn ŵyl heb faes traddodiadol.

Mae’r Eisteddfod eisoes wedi cadarnhau mai yn y brifddinas y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018, a hynny yng nghanol y ddinas ond mae yna ddadlau wedi bod am y syniad o gynnal yr ŵyl mewn adeiladau sydd yno eisoes.

Mae Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn cwrdd fory yn Aberystwyth, lle fydd yr argymhellion hyn yn cael eu trafod – nod y newid fyddai agor drysau’r ŵyl i ddenu rhagor o bobol.

Safleoedd posib

Mae sawl awgrym wedi’i wneud, gan gynnwys Bae Caerdydd, gyda pherfformiadau a chystadlaethau yn cael eu cynnal mewn adeiladau fel Canolfan y Mileniwm.

Lleoliad arall sy’n cael ei ystyried yw Caeau Pontcanna, lle cafodd yr ŵyl ei chynnal y tro diwethaf i’r Eisteddfod ymweld â Chaerdydd, yn 2008.

Gallai’r Eisteddfod benderfynu peidio â chodi tâl mynediad i’r maes chwaith, heb ffens i amgylchynu’r safle.