Mae disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig amlinellu manylion eu polisi heddiw i warchod cyllid addysg uwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, pe baent yn cael eu hethol wedi etholiadau’r Cynulliad.
Fe fyddai’r blaid yn sefydlu Grant Cymorth Byw Myfyrwyr, gwerth £2,500 y flwyddyn ar gyfer holl fyfyrwyr llawn amser o Gymru – ble bynnag maen nhw’n penderfynu astudio yn y DU.
Fe fyddai’r grant yn cael ei gyllido drwy ddiddymu’r Grant Ffioedd Dysgu, ac mae’r blaid yn rhagweld y gallai hyn arwain at “o leiaf £80 miliwn o gyllid ychwanegol i brifysgolion.”
‘Cyllido’n briodol’
“Dylai mynediad at addysg uwch gael ei benderfynu ar sail gallu academaidd nid cefndir cymdeithasol,” meddai Aled Roberts, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd fod Prifysgolion Cymru wedi eu “newynu rhag cyllid o ganlyniad i bolisïau ffioedd dysgu anghyfrifol y Llywodraeth Lafur.”
Ychwanegodd y byddai eu polisi’n sicrhau £80 miliwn ychwanegol o gyllid i brifysgolion ac yn “cefnogi myfyrwyr i ehangu eu dewis a’u mynediad i brifysgol, a byddwn ni hefyd yn sicrhau bod prifysgolion yn cael eu cyllido’n briodol fel eu bod yn medru cynnig yr addysg a’r ymchwil gorau posibl.”