Bydd Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog Prydain yn cwrdd heddiw wrth i’r trafodaethau am ddyfodol y diwydiant dur barhau.

Mewn cyfarfod yn Stryd Downing, bydd Carwyn Jones yn galw am sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y byddan nhw’n gwladoli’r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot tra bo’r broses o ganfod prynwr yn parhau.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n barod i gyflwyno £60 miliwn tuag at sicrhau prynwr ar gyfer y gweithfeydd dur yng Nghymru, a’i fod yn “edrych ymlaen” at glywed beth fydd gan Lywodraeth y DU i’w gynnig.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, George Osborne y Canghellor a Sajid Javid yr Ysgrifennydd Busnes yn rhan o’r trafodaethau hefyd.

Tri chynnig

Yn dilyn cyfarfod yn y Senedd ddoe gyda’r ACau yn ail-ymgynnull, cyhoeddodd Carwyn Jones gynllun dri chynnig i’r diwydiant dur.

Dywedodd y dylai Llywodraeth Prydain wladoli’r gweithfeydd dur – os nad oes modd dod o hyd i brynwr.

Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Prydain drafod tariffau realistig ynglŷn â dympio rhad, ynghyd â sicrhau strategaeth tymor hir i leihau prisiau ynni yn y diwydiannau dur.

‘Alergedd’

Cyn y cyfarfod y bore yma, dywedodd David Cameron bod Llywodraeth y DU “yn gwneud popeth mae’n gallu i ddod o hyd i ddatrysiad hir dymor a hyfyw i achub gweithfeydd dur Port Talbot.”

Ychwanegodd y byddai’r cyfarfod yn gyfle i edrych “sut y gall Llundain a Chaerdydd weithio gyda’i gilydd i sicrhau fod gan y gweithfeydd ddyfodol cadarn gan roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn i weithwyr a’u teuluoedd.”

Ond, wfftio’r sylwadau fydd arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn, sydd wedi cyhuddo’r Llywodraeth o fod ag “alergedd ideolegol at berchnogaeth gyhoeddus [o’r diwydiant dur].”

“Rydym ni’n galw ar y Llywodraeth i gyflymu’r buddsoddiad ar gyfer £35 biliwn o brosiectau isadeiledd sydd eisoes wedi’u cytuno a’u hadeiladu nhw drwy ddefnyddio dur Prydain,” meddai Jeremy Corbyn.