Yn Llys y Goron Caernarfon heddiw, mae dyn wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o dwyllo gwr gweddw.

Roedd Karl Alexander, 49 oed, wedi’i gyhuddo o ddwyn bron i £300,000 oddi ar Dennis Jezzard, cyn-weithiwr gyda banc yr Halifax yng Nghymru.

Dros gyfnod o 16 mis, roedd Karl Alexander wedi bod yn cymryd mantais i Mr Jezzard, meddai’r Barnwr Niclas Parry, a hynny wedi i’r hen wr 90 oed ei ystyried yn ffrind y gallai ymddiried ynddo.

R0edd Karl Alexander wedi gwneud cais am fudd-dâl gofalwr, gan ddweud celwydd. Roedd hefyd wedi honni fod y dioddefwr yn dad ac yn daid iddo, a hyd yn oed wedi ceisio gwerthu cartre’ Mr Jezzard.

Mae Karl Alexander wedi’i ddedfrydu i garchar am dair blynedd.