Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau lluniau teledu cylch cyfyng o leidr cardiau crafu.
Mae’r dyn yn cael ei amau o ddwyn y cardiau o siopau yng Nghaerdydd, Y Barri ac Abertawe.
Mae’r heddlu yn dweud fod yr un peth yn digwydd bob tro yr oedd yn mynd i mewn i siop: mae’n gofyn am gael prynu cardiau crafu. Wedyn, mae’n dweud nad oes ganddo arian ac yn gadael y siop, gan adael ei nwyddau ar ol, ond gan fynd â’r cardiau crafu heb dalu amdanyn nhw.
Dylai unrhyw un sy’n nabod y dyn yn y lluniau, ffonio Heddlu De Cymru ar 101, neu ffonio’n ddienw linell Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.