Ysgrifennydd Busnes San Steffan wedi bod ym Mhort Talbot yr wythnos diwethaf
Mae Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Sajid Javid wedi dweud bod Llywodraeth Prydain yn barod i helpu gweithwyr dur ym Mhort Talbot drwy sicrhau cytundeb i achub y gweithfeydd sy’n cael eu gwerthu gan Tata.

Dywedodd Javid wrth raglen Andrew Marr y BBC fod digon o amser i allu dod o hyd i brynwr i’r safle.

“Bydd Tata yn cyhoeddi dogfen gyda chynnig yn fuan iawn. Gyda hynny, mae Llywodraeth y DU yn gwybod – ac rwy’n gwybod ers tro – y bydd rhaid i ni gynnig cefnogaeth i sicrhau’r prynwr hwnnw a rhoi dyfodol hirdymor sefydlog i’r safle dur.”

Ychwanegodd nad gwladoli’r safle yw’r ateb i’r argyfwng, ond ei fod yn barod i ystyried pob opsiwn er mwyn achub y gweithfeydd.

“Ond rwy’n teimlo, am sawl reswm, wedi’r trafodaethau gyda Tata a nifer o bobol eraill ynghlwm wrth hyn, y bydd digon o amser i ddod o hyd i’r prynwr cywir i gydweithio gyda’r Llywodraeth ac i allu symud ymlaen.

“Byddwn ni’n edrych ar bopeth allwn ni ei wneud i alluogi’r gwerthu i fynd yn ei flaen a fyddwn i ddim yn diystyru unrhyw beth ar hyn o bryd.”