Mae cwmni o Gaerdydd wedi datblygu’r ddyfais gyntaf o’i math yn y byd a fydd yn cael ei defnyddio i ganfod o ba ffynhonnell gemegol y daw ymosodiadau brawychol yn y dyfodol.
Mae Grŵp BBI yn gweithio gyda byddinoedd y Deyrnas Unedig ac America ar y ddyfais newydd a fydd yn gallu adnabod pa gemegion sy’n cael eu defnyddio mewn ymosodiad â bomiau ac arfau cemegol eraill.
Yn ôl cadeirydd y cwmni, os byddai achos “digwyddiad mawr ar Fetro Efrog Newydd neu system danddaearol Llundain heno” byddai’r ddyfais yn gallu canfod y cemegyn oedd wrth wraidd yr ymosodiad.
Yn wahanol i ddyfeisiau eraill o’r math hwn, mae’r ddyfais newydd yn gallu dod o hyd i ffynhonnell ymosodiadau yn gyflymach ac yn fwy cywir. Bu arweinwyr byd yn cyfarfod yn Washington ddoe i drafod ymosodiadau cemegol gan frawychwyr, gan gynnwys sut i’w hatal rhag cael eu dwylo ar ddeunydd ymbelydrol.