Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio prosiect newyddi ddatblygu gyrfaoedd 7,000 o bobl y Gogledd, diolch i arian gan yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y prosiect Sgiliau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr (SEE), sydd werth £16.2 miliwn, yn darparu rhaglenni hyfforddi wedi’u targedu at fusnesau.

Mae’r prosiect wedi cael dros £10m o gefnogaeth ariannol o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, gan alluogi busnesau i gael mynediad at hyfforddiant gyda chymorthdaliadau hyd at 70%.

Mae disgwyl y bydd mwy na 500 o fusnesau a 7,000 o bobl yn elwa ar y prosiect dros y tair blynedd nesaf.

“Newyddion ardderchog i’r Gogledd”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt: “Mae’r buddsoddiad hwn o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn newyddion ardderchog i’r Gogledd, i’r miloedd o bobl a fydd yn elwa ar sgiliau a chyfleoedd gyrfa gwell a hefyd i ffyniant busnesau yn y rhanbarth.

“Mae hyn hefyd yn enghraifft gadarnhaol arall o fanteision bod y Deyrnas Unedig yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n creu cyfleoedd i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd a’u sgiliau gan arwain at ddyfodol mwy llewyrchus.”