Russell Peachey
Mae dau ddyn wedi’u cael yn ddieuog o lofruddio dyn o Gaerdydd fu farw ar ôl ymosodiad honedig gyda morthwyl ar ôl cael ffrae gyda’i gariad.
Cafwyd hyd i Russell Peachey, 35 oed, yn anymwybodol mewn stryd yn Grangetown ym mis Awst y llynedd. Bu farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.
Roedd pedwar dyn wedi’u cyhuddo o’i lofruddio.
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, roedd y Barnwr Keith Thomas wedi rhoi cyfarwyddyd i’r rheithgor i gael Dean Beasley, 37, o’r Barri, a Shaminder Singh, 40, o Grangetown, Caerdydd yn ddieuog o lofruddio Russell Peachey.
Mae’r achos yn erbyn Christopher Smith, 41, a James Williams, 31, yn parhau. Maen nhw wedi eu cyhuddo o ladd Russell Peachey ar ôl ymyrryd yn y ffrae yn y stryd.
Mae Smith a Williams yn gwadu llofruddiaeth ond mae Williams wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad.
Mae’r achos yn parhau.