Cheryl James (llun: PA)
Cafodd y milwr o Langollen, Cheryl James, ei gorfodi gan ddyn yr oedd hi’n cael perthynas rywiol ag e i ddewis rhyngddo fe a’i chariad ar y diwrnod y cafwyd hyd iddi wedi marw ym marics Deepcut.

Mae’r cwest i’w marwolaeth wedi clywed tystiolaeth gan y Preifat Paul Wilkinson, dyn y bu hi’n cael perthynas rywiol ag e adeg ei marwolaeth.

Roedd e a Cheryl James eisoes wedi cael eu dal yn y gwely gyda’i gilydd gan Simeon Carr-Minns, ei chariad ar y pryd.

Dywedodd Paul Wilkinson ei fod e wedi ei gofyn iddi ddewis rhyngddo fe a Simeon Carr-Minns ar y diwrnod y bu hi farw, am ei fod e am i’r triongl serch ddod i ben.

‘Hapus ac yn chwerthin’

Dywedodd Wilkinson, oedd yn 16 ar y pryd, ei fod e wedi siarad â hi ryw ugain munud cyn iddi gael ei darganfod yn farw a gyda bwled yn ei phen ar 27 Tachwedd, 1995.

Cafodd Cheryl James ei disgrifio gan Wilkinson fel “hapus ac yn chwerthin” a dywedodd ei bod hi’n dal i deimlo’n fregus ar ôl bod yn yfed alcohol yn gynharach pan gafodd y ddau sgwrs.

“Rwy ond yn cofio dweud ‘dewis un ohonon ni, os wyt ti am fod yn ffrindiau mae hynny’n iawn os wyt ti am aros gyda fe’,” meddai Paul Wilkinson.

Dywedodd hi nad oedd hi eisiau aros gyda’i chariad, meddai, a dyna ddiwedd eu sgwrs.

Mae’r cwest yn parhau.