Mae dau ddisgybl wedi cael eu harestio yn dilyn ‘mater sensitif’ ar dir Ysgol Gatholig Bishop Vaughan yn Abertawe fore Mercher.

Dydy union fanylion y mater ddim wedi cael eu cyhoeddi, ond fe gafodd dau o ddisgyblion yr ysgol yn ardal Treforys eu harestio mewn dau leoliad gwahanol.

Pwysleisiodd yr heddlu nad oedd yr un o’r ddau ar dir yr ysgol pan gawson nhw eu harestio.

Ond mae swyddogion yn parhau i fod y tu allan i’r ysgol yn gwarchod y gatiau ar hyn o bryd.

‘Dim risg i staff na disgyblion’

Dywedodd yr ysgol a Heddlu’r De mewn datganiad ar y cyd fod “diogelwch a lles disgyblion yn hollbwysig” a bod y mater wedi dod i ben “heb risg i staff na disgyblion”.

Ond oherwydd “natur sensitif” y mater, doedden nhw ddim yn fodlon gwneud sylw pellach.

Mewn datganiad yn gynharach fore Mercher, dywedodd yr ysgol ar eu gwefan: “Fel ysgol rydym yn trin iechyd a diogelwch ein disgyblion a’n staff yn ddifrifol iawn ac mae gennym gamau gwarchod cryf iawn yn eu lle.

“Roedd mater cyfrinachol yn ymwneud ag amddiffyn plant y bore ‘ma, a chafodd mesurau rhagofal eu cyflwyno.”