Ceisio gwella signal ffonau symudol yng nghefn gwlad Cymru fydd yn cael sylw mewn uwchgynhadledd ddydd Mercher.
Bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cyfarfod â’r prif gwmnïau ffonau symudol mewn ymgais i ddatrys y sefyllfa.
Ar hyn o bryd, mae 4% o dai neu fusnesau Cymru heb signal i allu gwneud na derbyn galwadau ar ffôn symudol ar unrhyw un o’r prif rwydweithiau. Y canran dros Brydain gyfan yw 2%.
Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pwerau newydd tebyg i’r rheiny a gafodd eu cyflwyno fel rhan o Gyllideb Canghellor San Steffan, George Osborne, a fydd yn galluogi codi mastiau uwch yn Lloegr i wella’r signal mewn ardaloedd anghysbell.
Mae’r mesurau’n caniatáu codi mastiau hyd at 25 metr heb fod angen caniatâd cynllunio, sydd 10 metr yn uwch na’r mesurau presennol.
‘Buddsoddi’
Fe fydd yr uwchgynhadledd hefyd yn ystyried mesurau tebyg i’r rheiny yn rhannau anghysbell o’r Alban lle mae EE a Facebook yn darparu cyswllt 4G i bentrefi.
Ymhlith y cwmnïau fydd yn yr uwchgynhadledd yn Swyddfa Cymru mae MobileUK, Three, O2, Vodafone ac EE.
Ar drothwy’r uwchgynhadledd, dywedodd Alun Cairns mewn datganiad: “Tra fy mod yn gwerthfawrogi llwyddiant cynnydd hyd yma a graddfa’r her o ran gwella cysylltiadau symudol ledled Cymru, mae rhai mannau o hyd yng nghefn gwlad Cymru heb unrhyw fath o gyswllt i rwydwaith.
“Fe ddefnyddiodd Llywodraeth y DU y Gyllideb i gyhoeddi mwy o ryddid a hyblygrwydd ar gyfer isadeiledd symudol – hoffwn weld Llywodraeth Cymru’n ystyried rhywbeth tebyg.
“Mae’n hollol briodol fod ymgynghori’n digwydd â chymunedau am effaith mastiau. Ond os ydyn ni am wella cyrhaeddiad mewn mannau anghysbell yna mae angen i ni annog y darparwyr i fuddsoddi yn eu rhwydweithiau er mwyn gwella gwasanaethau llais a data.”