Y Canghellor, George Osborne
Mae’r cogydd Jamie Oliver wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd treth yn cael ei chodi ar ddiodydd melys fel rhan o Gyllideb y Canghellor George Osborne.
Dywedodd Oliver fod y polisi yn “gam dwfn a fydd yn atseinio o amgylch y byd”.
Mae ymgyrchwyr ym maes iechyd wedi ategu sylwadau Oliver.
Fe ddaeth gostyngiad yn y cyfrannau mewn cwmnïau diodydd melys yn dilyn y cyhoeddiad.
Bydd y dreth newydd yn dod i rym ymhen dwy flynedd, yn y gobaith y bydd cwmnïau’n lleihau faint o siwgr sydd yn mynd i mewn i’w cynnyrch yn y cyfamser.
Mae’n ffurfio rhan o bolisi’r Llywodraeth ar atal gordewdra ymhlith plant.
Ar ei dudalennau Twitter ac Instagram, dywedodd Jamie Oliver fod y polisi yn “ddewr, yn rhesymegol ac yn cael ei gefnogi gan y bobol iawn”.
Mae disgwyl i’r dreth godi £520 miliwn a fydd yn ariannu cyfleoedd i blant ym maes chwaraeon mewn ysgolion yn Lloegr. Bydd gwledydd eraill y DU yn derbyn canran o’r arian drwy Fformiwla Barnett.
Effaith y Gyllideb ar Gymru
Yn ychwanegol at y polisi ar ddiodydd melys – polisi a gafodd ei grybwyll eisoes gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood,– mae nifer o gyhoeddiadau eraill George Osborne yn effeithio’n uniongyrchol ar Gymru.
Fe fydd tollau pontydd Hafren yn cael eu haneru yn 2018, o £6.60 ar gyfer ceir i £3.30 – er bod cynlluniau eisoes ar y gweill i’w gostwng i £5.40 – o £13.20 i £6.60 ar gyfer faniau ac o £19.80 i £9.90 ar gyfer lorïau a bysus.
Daeth cadarnhad hefyd fod parth menter Port Talbot yn cael ei sefydlu, a hynny’n bennaf fel ymateb i golli swyddi yng ngwaith dur Tata Steel.
Fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru’n cynyddu £370 miliwn erbyn 2020.
Ymhlith y mesurau eraill a gafodd eu cyhoeddi mae:
– Rhewi trethi ar danwydd ac alcohol
– Cynnydd o 2% yn y dreth ar sigaréts, a 3% ar gyfer tybaco rholio sigaréts
– Treth gorfforaeth i gael ei thorri o 20% i 17% erbyn 2020
– Codi 0.5% ar dreth premiwm yswiriant i godi £700 miliwn ychwanegol
– Codi’r trothwy ar gynilon preifat ISA o £15,000 i £20,000 cyn bod rhaid talu trethi
– Cynnydd i £11,500 yn y lwfans personol ar gyfer y dreth incwm
– Bydd y lefel uchaf o dreth incwm (40%) yn dechrau ar £45,000 yn 2017
‘Dim byd newydd i Gymru’
Er y sylw a gafodd ei roi i Gymru yng nghyllideb Osborne, nid Cyllideb i Gymru oedd hon, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Dywedodd hi wrth y BBC: “Mae’n bositif ond yn cuddio’r ffaith nad Cyllideb i Gymru o gwbl mo’r Gyllideb hon.
“Er y dylid croesawu’r gostyngiad yn y costau ar gyfer pontydd Hafren, mae’n cuddio Cyllideb sydd yn wael i Gymru ar y cyfan.
“Tra ein bod ni’n derbyn rhywbeth ar y naill law, rydym yn colli rhywbeth ar y llaw arall.
“Does dim byd newydd yma i Gymru. Pan gymharwch chi’r buddsoddiad i Gymru a Lloegr, does dim cymhariaeth.”
‘Nid Cyllideb er lles Cymru mo hon’
Cafodd sylwadau Leanne Wood eu hategu gan lefarydd Materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan, Nia Griffith.
Mewn datganiad, dywedodd hi nad “Cyllideb er lles Cymru mo hon”.
“Gwnaeth George Osborne osgoi’r heriau mawr y mae ein heconomi’n eu hwynebu ac yn hytrach, fe gyhoeddodd y bydd pobol gyffredin yng Nghymru’n wynebu rhagor o doriadau.
“Doedd dim sôn am drydaneiddio’r rheilffordd yn y gogledd na’r de, a dim sôn am Forlyn Llanw Bae Abertawe – prosiect a allai greu cannoedd o swyddi lleol a rhoi hwb i’n diwydiant dur, ond na fydd Llywodraeth y DU yn ei sicrhau.”
Yr unig sicrwydd a ddaeth i Gymru, meddai, oedd rhagor o doriadau.
“Yr hyn wnaeth George Osborne ei gadarnhau oedd y byddai’n torri’r gefnogaeth i bobol ag anableddau a defnyddio’r arian hwn i ariannu toriad yn y dreth enillion cyfalaf ar gyfer y bobol gyfoethocaf.
“Fe wnaeth e gadarnhau y byddai adrannau Llywodraeth y DU yn wynebu rhagor o doriadau eto fyth, gan roi gwasanaethau lleol mewn perygl.
“Y dewisiadau anghywir yw’r rhain ac maen nhw’n arwydd o Ganghellor y mae ei flaenoriaethau i gyd yn anghywir.”
Asesu’r goblygiadau i Gymru
Wrth bwyso a mesur sut y bydd y Gyllideb yn effeithio ar Gymru, dywedodd Dr Edward Jones o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth Golwg360 ei fod wedi “disgwyl toriadau gwaeth”.
Fe gyfaddefodd y byddai’r toriadau o £3.5 miliwn erbyn 2020 yn cael “effaith negyddol ar wariant y sector cyhoeddus yma yng Nghymru”, ond y gallai’r cyfan “fod lot gwaeth”.
“Roeddwn i yn disgwyl (toriadau) gwaeth i ddweud y gwir o ystyried nad ydy’r economi’n perfformio cystal, ac mae’r Canghellor wedi cyfaddef ei hun nad ydy Prydain yn tyfu cymaint ag y byddai wedi hoffi.”
Dywedodd ei fod yn croesawu cyhoeddi’r trothwy ar gyfer cyfraddau busnesau bach o £6,000 i £15,000 – “mae hynny’n mynd i gael effaith fawr yn enwedig arnom ni yng Nghymru o ystyried ein bod ni’n dibynnu lot ar y cwmnïau bach yma.”
Wrth sôn am yr ardal fentergarwch ym Mhort Talbot, ychwanegodd: “Mae’n dda ond dwi ddim yn meddwl bod hynna’n ddigon, dwi’n meddwl bod yn rhaid i’r llywodraeth edrych ar sut i’w helpu nhw fwy.”