Sylvan Parry (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn wnaeth geisio lladd ei wraig tra’r oedden nhw’n mynd a’u plant i’r ysgol wedi ei garcharu am o leiaf saith mlynedd a hanner.

Roedd Sylvan Parry o Gaernarfon wedi ymosod ar ei wraig Fiona Parry wrth iddyn nhw fynd â thri o blant i’r ysgol ar ddiwrnod cynta’r tymor ar Fedi 3.

Cafwyd y tad 46 oed yn euog o geisio lladd ei wraig yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddoe.

Heddiw mae Sylvan Parry wedi cael ei ddedfrydu i dreulio oes dan glo,  a bydd yn gorfod treulio lleiafswm o saith mlynedd a hanner yn y carchar.

Roedd wedi ymosod ar ei wraig wrth iddi wthio eu babi mewn pram gyda dau blentyn arall yno hefyd.

Roedd tystion wedi disgrifio gweld Sylvan Parry yn cicio ei wraig “fel pêl-droediwr yn cymryd cic gosb” a bu’n rhaid ei atal rhag stampio ar ei phen.

Yn ôl y Ditectif Sarjant Gary Williams, arweinydd yr ymchwiliad, roedd trais Sylvan Parry “yn weithred erchyll a welwyd gan aelodau o’r cyhoedd ac yn enwedig gan blant ifanc ar eu ffordd i’r ysgol”.