Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad rhwng lori a fan yn Llanilltud Fawr ddydd Llun.

Cafodd gyrrwr y fan Citroen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle mae mewn cyflwr difrifol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd  y B4270 wrth fynedfa’r Parc Busnes Vale yn Llandw ddydd Llun, 7 Mawrth tua 4yp.

Roedd y fan yn gadael y parc busnes pan fu mewn gwrthdrawiad a lori a oedd yn teithio ar hyd y B4270 o gyfeiriad yr A48.

Mae’r heddlu’n awyddus i holi gyrrwr cerbyd Citroen lliw tywyll a oedd wedi troi i mewn i’r parc busnes tua’r un pryd a digwyddodd y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.