Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi dweud heddiw y bydd Siarter y Gymraeg yn cael ei hymestyn i bob ysgol gynradd Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru.
Daw cyhoeddiad y Prif Weinidog yn sgil adroddiad gafodd ei rhyddhau ddydd Iau ar strategaeth addysg Gymraeg y llywodraeth sydd yn dangos bod sawl targed craidd wedi’i fethu.
Cafodd y llywodraeth eu beirniadu’n llym gan Gymdeithas yr Iaith yn dilyn yr adroddiad, gyda’r ymgyrchwyr iaith yn eu cyhuddo o ‘fethiannau difrifol’.
Ac fe gyfaddefodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis heddiw bod “mwy i’w wneud” mewn rhai meysydd o ran addysg Gymraeg.
‘Llwyddiant mawr’
Cafodd Siarter y Gymraeg ei datblygu gan Gyngor Gwynedd yn 2011 er mwyn darparu fframwaith clir i ysgolion hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
Fe fydd hynny nawr yn cael ei ymestyn ledled Cymru, gyda’r Prif Weinidog yn nodi mai’r gobaith oedd y byddai hefyd yn cynyddu defnydd o’r iaith y tu hwnt i’r ysgol.
“Mae Siarter y Gymraeg wedi bod yn llwyddiant mawr o ran cynyddu’r defnydd o’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth, felly rwyf wrth fy modd heddiw’n cyhoeddi ei bod yn cael ei hymestyn ledled Cymru,” meddai Carwyn Jones.
“Mae hwn yn gam hanfodol o ran cyflawni ein nod o weld yr iaith yn ffynnu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.”
‘Mwy i’w wneud’
Ychwanegodd Huw Lewis fod yr adroddiad ar y strategaeth addysg Gymraeg wedi rhoi clod mewn rhai mannau, gan gynnwys nodi bod “cefnogaeth eang” i amcanion a gweledigaeth y llywodraeth.
“Maent yn dangos hefyd bod y Strategaeth wedi arwain at nifer o ganlyniadau cadarnhaol gan gynnig fframwaith sy’n mynd ati mewn ffordd fwy pendant a strategol i gynllunio darpariaeth Gymraeg,” meddai’r Gweinidog Addysg.
“Wrth gwrs fe wyddom fod mwy i’w wneud ac rwyf yn falch o gadarnhau y byddwn yn blaenoriaethu rhywfaint o fuddsoddiad o dan y Grant Gwella Addysg i gyflwyno Siarter y Gymraeg yn raddol i bob ysgol Gymraeg a dwyieithog ym mhob un o’n 22 o awdurdodau lleol.
“Siarter sydd eisoes wedi dwyn ffrwyth yng Ngwynedd yw hon ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd hwn yn cael ei ymestyn i bob cwr o Gymru.”
‘Rhybudd’ Plaid Cymru
Wrth ymateb i ddatganiad y Llywodraeth ar Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg Simon Thomas:
“Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers amser y byddai’r llywodraeth yn methu ei darged oni bai ei fod yn cynnig arweinyddiaeth lawer mwy cryf.
Yn anffodus, mae ein rhagolygon wedi cael ei brofi’n gywir ac mae’r Llywodraeth Lafur wedi methu ei dargedau. Mae’r adroddiad yn canfod fod arweinyddiaeth y Llywodraeth yn annigonol, a bod angen gwneud llawer mwy i wneud y Cynllun Strategol Cymraeg yn flaenoriaeth.
“Mae Plaid Cymru eisiau mynd ymhellach na hyn a rhoi mynediad i addysg Gymraeg i bob plentyn o’r cyfnod sylfaen ac arwain symudiad tuag at y Gymraeg fel cyfrwng yn hytrach na phwnc gyda phob disgybl yn derbyn rhan o’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.”
‘Cynlluniau gwan’
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu’r Gwerthusiad ar Strategaeth Addysg Gymraeg y Llywodraeth gan ddweud ei fod yn “dangos yn glir fod gan y Llywodraeth bolisïau cadarnhaol ar y naill law, ond ar y llall mae’n profi nad yw’r Llywodraeth wedi llwyddo i gyrraedd ei thargedau.”
“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn derbyn cynlluniau gwan gan Awdurdodau Lleol, sy’n golygu nad yw rhai siroedd wedi symud un cam ers deng mlynedd,” meddai Dyfodol i’r Iaith mewn datganiad.
Dywed y mudiad ei fod “yn edrych ymlaen at Lywodraeth nesa Cymru’n cywiro aneffeithiolrwydd y gorffennol ac yn rhoi prosesau ar waith fydd yn sicrhau cynnydd addysg Gymraeg.”