Ni fydd cosb am dorri'r gwaharddiad
Fe fydd un o draethau Sir Benfro yn aros yn ddi-fwg am flwyddyn gyfan o ddydd Mercher ymlaen fel rhan o arbrawf.
Littlehaven fydd y traeth cyntaf yng Nghymru i fod yn ddi-fwg, a’r bwriad yw annog pobol ifanc i beidio ysmygu, a hynny ar Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu.
Ond ni fydd y ‘gwaharddiad’ – sydd hefyd yn cynnwys e-sigarennau – yn cael ei orfodi ar ymwelwyr.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Amgylcheddol a Rheoleiddio, Huw George: “Mae dwy ran o dair yn dechrau ysmygu cyn y byddan nhw’n 18 oed.
“Yng Nghymru, mae mynychder ysmygu tua 21% ac i leihau’r ffigwr hwn mae’n rhaid i ni atal plant ac oedolion ifanc rhag dechrau ysmygu.
“Rydym yn gwybod bod plant mewn perygl o fwg ail-law ac maen nhw’n fwy tebygol o ddysgu ysmygu eu hunain os ydyn nhw’n gweld oedolion yn ysmygu mewn amgylchedd teuluol.
“Mae’n bwysig ein bod yn gwneud ysmygu yn rhywbeth anghyffredin a cheisio gostwng y cyfraddau o bobl ifanc sy’n dechrau ysmygu. Hefyd mae angen lleihau effaith mwg a mwg e-sigarets arnynt yn yr ardaloedd lle maen nhw’n ymgynnull.”
Gwaharddiad gwirfoddol
Cafodd y cynllun ei sefydlu fel rhan o becyn o fesurau i wahardd ysmygu a’r defnydd o e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys meysydd chwarae, caeau chwarae a meysydd parcio cyfagos.
Sir Benfro yw’r unig sir yng Nghymru i beidio derbyn amodau’r cynllun Caeau Chwarae Di-fwg.
Ond mae Cyngor Sir Penfro’n mynnu eu bod nhw wedi ymrwymo i sicrhau iechyd y cyhoedd.
Fe fydd 35 o blant o ysgol Littlehaven ar y traeth brynhawn Mercher i lansio’r gwaharddiad gwirfoddol yn swyddogol – y nifer honedig o blant sy’n dechrau ysmygu bob dydd yng Nghymru.
Ni fydd unrhyw gosb am anwybyddu’r gwaharddiad gwirfoddol.
Ychwanegodd Huw George: “Bydd arwyddion yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr y traeth am y gwaharddiad.
“Efallai bydd rhywun yn cyfarch unrhyw un sy’n torri’r gwaharddiad ac yn gofyn iddynt yn gwrtais i beidio ag ysmygu. Mae’n debyg i’r gwaharddiad ar ysmygu mewn ardaloedd chwarae ar draws Cymru.”
Croesawu’r cynllun
Mae’r gwaharddiad gwirfoddol wedi’i groesawu gan arbenigwyr iechyd yng Nghymru.
Dywedodd Prif Swyddog Iechyd Cymru, Dr Ruth Hussey: “Mae’r mesurau ar dybaco ac e-sigarets ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn edrych ar atal normaleiddio ysmygu.
“Mae gwneud traethau godidog Sir Benfro yn ddi-fwg yn atgyfnerthu’r gwaith a gaiff ei wneud gan y bil. Dylid llongyfarch Cyngor Sir Penfro am ei gwaith yn anelu am Gymru ddi-fwg.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Teresa Owen: “Rydym yn falch o gefnogi cynllun traeth di-fwg Cyngor Sir Penfro.
“Mae gormod o bobl yn marw bob blwyddyn o afiechydon yn ymwneud ag ysmygu, fel clefyd y galon. Mae unrhyw beth sy’n annog rhywun i beidio ag ysmygu yn gam positif.
“Stopio ysmygu yw’r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud er lles eich iechyd.
“Os yw’r prosiect hwn wedi’ch annog chi i feddwl am stopio ysmygu yna byddwn yn eich annog i gysylltu â’ch fferyllydd lleol, eich nyrs practis neu gwiriwch y gwasanaethau diweddaraf ar gael ar wefan Bwrdd iechyd y Brifysgol. Rydych bedair gwaith yn fwy tebygol o stopio os cewch chi gymorth.”