Christine James
Mae dyn 36 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes yn ei fflat ym Mae Caerdydd.

Cafwyd hyd i gorff Christine James, 65, yn ei fflat yn ardal Century Wharf  ym Mae Caerdydd ddydd Mercher diwethaf.

Cafodd y dyn ei arestio ddydd Llun, 7 Mawrth ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd.

Mae dyn 66 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Christine James, bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau pellach gael eu cynnal.

Mae teulu Christine James yn parhau i gael cymorth gan swyddogion arbenigol ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i’w ffonio ar 101 neu drwy Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111, gan ddyfynnu’r rhif *072884.