Mae’r heddlu wedi enwi’r ddynes sydd wedi bod ar goll ers 14 mlynedd ac wedi ei darganfod yn Sir Fynwy.
Daethpwyd o hyd i weddillion Margaret Ann Llewelyn, oedd yn 53 oed pan ddiflanodd, mewn chwarel.
Fe’i gwelwyd am y tro olaf yn ei chartef yng Nghas-gwent yn 2002.
Aeth swyddogion Heddlu Gwent i chwarel Beaufort ar Chwefror 24, ac heddiw maen nhw wedi cadarnhau corff pwy oedd yno.