Y Gymdeithas yn protestio dros S4C
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud iddyn nhw gael cyfarfod “adeiladol” gydag S4C heddiw ynghylch y ffrae dros is-deitlau awtomatig Saesneg, ond bod angen “ymrwymiadau pellach” gan y Sianel.

Yn benodol, mae’r mudiad wedi galw am gadarnhad na fydd ymgyrch debyg eto ac maen nhw eisiau I  S4C ymddiheuro i wylwyr am yr “anghyfleustra” o gael is-deitlau “gorfodol” Saesneg dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd ymgyrchwyr hefyd fod swyddogion y Sianel wedi cytuno i “ymchwilio ar y cyd” am dechnoleg i gynyddu’r canran o is-deitlau Cymraeg sydd ar gael.

Ar hyn o bryd, mae is-deitlau dewisol Cymraeg ar tua 7% o raglenni’r sianel, tra bod is-deitlau Saesneg yn opsiwn ar 78% o raglenni.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar S4C i sicrhau bod is-deitlau Cymraeg ar gael ar 80% o’i rhaglenni.

Mae llefarydd S4C wedi dweud bod “y cyfarfod bore yma gyda Cymdeithas yr Iaith yn adeiladol a buddiol, ac rydym yn gwerthfawrogi’r sylwadau a wnaed”.

S4C heb “syrthio ar ei bai”

Mae S4C wedi cael ei beirniadu’n hallt am ei “hymgyrch dros dro”, gyda mudiadau iaith yn ei melltithio am geisio “dwyieithogi’r” Sianel.

Er hyn, mae S4C wedi amddiffyn ei phenderfyniad ac wedi mynnu mai dim ond ymgyrch dros bum diwrnod yw hwn, i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth is-deitlo dewisol.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud ei bod yn “anffodus” nad yw swyddogion y Sianel wedi “syrthio ar eu bai”.

“Mae angen iddyn nhw ddatgan yn glir na fydden nhw’n ail-adrodd arbrawf yr wythnos hon nac yn ehangu’r defnydd o is-deitlau gorfodol dan unrhyw amodau, ac ry’n ni dal yn disgwyl iddyn nhw wneud hynny,” meddai David Wyn, is-gadeirydd grŵp Dyfodol Digidol y mudiad.

“Ble mae’r ymddiheuriad i holl wylwyr S4C am yr anghyfleustra a achoswyd yr wythnos hon oherwydd is-deitlo Saesneg gorfodol ar y sianel?”

Is-deitlau Cymraeg yn unig

“Ein safbwynt ni yw y dylai is-deitlau fod yn Gymraeg ac yn ddewisol yn unig – eu prif ddiben yw ar gyfer pobl gyda nam ar eu clyw, ond eto dim ond canran pitw sydd ar gael ar hyn o bryd.

“Dylen nhw weithio tuag at ddarparu is-deitlau Cymraeg ar 80% o raglenni, fel sy’n ofynnol yn ôl rheolau darlledu. Ry’n ni’n falch eu bod wedi cytuno heddiw i ymchwilio fel cam cyntaf yn y cyfeiriad cywir.”