William Powell AC
Mae William Powell wedi cael ei ddewis gan aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru i arwain rhestr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru y blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.
Mae William Powell yn ffermwr ac athro ieithoedd sydd eisoes yn AC ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae’r rhanbarth yn darparu pedwar o Aelodau rhanbarthol i’r Cynulliad.
Meddai ei fod yn “falch iawn” ei fod wedi cael ei ddewis eto a’i fod yn gobeithio cael y cyfle i barhau i wasanaethu fel AC.
Y rhestr ranbarthol
Trefn rhestr ranbarthol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru yw:
William Powell
Jane Dodds
Gemma Bowker
Bob Kilmister
Alistair Cameron
Stephen Churchman
‘Anrhydedd llwyr’
Dywedodd William Powell AC: “Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy newis gan aelodau’r blaid i arwain tîm hynod o gryf.
“Mae wedi bod yn anrhydedd llwyr i gynrychioli pobl Canolbarth a Gorllewin Cymru dros y pum mlynedd diwethaf ac rwy’n gobeithio cael y cyfle i barhau gyda’r gwaith yr wyf wedi cychwyn.”