Cheryl James
Mae gwyddonwyr wedi dweud wrth gwest eu bod nhw wedi gwrthod wfftio’r posibilrwydd fod y milwr Cheryl James o Langollen wedi cael ei saethu gan rywun arall ym marics Deepcut yn 1995.

Clywodd y cwest i’w marwolaeth fod profion a gafodd eu cynnal gan arbenigwyr o’r Almaen yn aneglur, ac fe ddaeth gwyddonwyr i’r casgliad fod y dryll yn agos i’w chorff pan gafodd ei danio, gan adael bwled yn ei phen.

Wyth mlynedd wedi ei marwolaeth, fe drafododd yr arbenigwyr gyfres o arbrofion oedd wedi cael eu cynnal gan ddefnyddio croen mochyn a ffotograffau.

Wrth roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo i’r cwest yn Woking, dywedodd yr arbenigwyr fod eu hadroddiad yn 2003 wedi nodi’r posibilrwydd y gallai hi fod wedi cael ei lladd gan rywun arall.

Dywedodd cyfreithiwr wrth y cwest fod yr adroddiad yn nodi: “Nid oes modd ateb y cwestiwn ynghylch pwy daniodd yr ergyd yn fanwl gywir.”

Dywedodd yr arbenigwyr unwaith eto wrth y cwest nad oedd modd dweud yn sicr ai Cheryl James neu rywun arall oedd wedi tanio’r dryll.

Doedd y fwled ddim wedi gadael ei phen wedi iddi farw, ac fe ddywedodd yr arbenigwyr fod hynny’n anghyffredin.

Doedd profion a gafodd eu cynnal ar y pryd ddim wedi gallu nodi a oedd marciau ar ddwylo Cheryl James yn faw neu’n wehilion o’r dryll.

Dywedodd yr arbenigwyr wrth yr heddlu ar y pryd nad oedd modd dod i gasgliad o fewn amser byr ac y byddai’n rhaid cynnal profion pellach.

Cafodd rheithfarn agored ei nodi yn y cwest cyntaf yn 1995, ac fe gafodd ail gwest ei orchymyn maes o law.

Mae’r cwest yn parhau.