Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £37 miliwn heddiw i hybu gyrfaoedd a bywydau pobol ifanc yng Nghymru.
Wrth ymweld â Brwsel, fe gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt eu bod wedi derbyn cefnogaeth ariannol gwerth £25.5 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i’r cynllun.
“Dyma enghraifft arall o’r ffordd y mae aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn fanteisiol i Gymru, ac mae’n dangos pwysigrwydd arian Ewrop i’n cenedl.”
‘Cefnogi pobol ifanc’
Fe fydd yr arian yn cael ei neilltuo i ddau gynllun ar gyfer pobol ifanc Cymru, sef TRAC 11-24 ac Inspire2Achieve.
Fe fydd Trac 11 – 24 yn cefnogi pobol ifanc yng ngogledd Cymru, ac Inspire2Achieve yn cefnogi pobol ifanc y cymoedd a’r de ddwyrain.
Byddan nhw’n cydweithio â’r awdurdodau lleol, colegau addysg bellach ac ysgolion i ganfod a chefnogi’r rhai sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio o addysg a hyfforddiant.
‘Diwydiannau Dur’
Wrth ymweld â Brwsel, fe fydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, hefyd yn cyfarfod ag Aelodau Senedd Ewrop o Gymru a’r Comisiwn Ewropeaidd.
Mae disgwyl iddi dynnu sylw at bwysigrwydd ac effaith cyllid Ewropeaidd yng Nghymru a materion yn ymwneud â’r diwydiannau dur a gweithgynhyrchu yn y De.
“Mae Cymru’n falch iawn o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac fe fyddai unrhyw benderfyniad gan y Deyrnas Unedig i adael yn wael i’r Deyrnas Unedig ac yn arbennig o andwyol i Gymru.”
Esboniodd fod prosiectau’r UE yng Nghymru wedi helpu dros 15,800 o fusnesau a thua 604,500 o unigolion ers 2007.
O’r rheiny, mae o leiaf 204,100 wedi ennill cymwysterau, a dros 64,700 wedi’u helpu i gael gwaith.