Mae’n flwyddyn bellach ers i barthau .cymru a .wales gael eu sefydlu ac mae’r ffigurau’r diweddaraf yn dangos bod dros 19,000 o gyfeiriadau wedi ymuno â nhw.
Ac mae enwau .cymru a .wales i’w gweld ar y rhestr o’r 10 uchaf o barthau daearyddol ar-lein yn Ewrop, sy’n cynnwys parthau eraill fel .london, .paris a .berlin.
Golyga hyn bod gan .cymru a .wales, gyda’i gilydd, un o’r niferoedd mwyaf o bobol yn Ewrop sydd wedi cofrestru â nhw.
Mae ymchwil pellach yn dangos mai’r geiriau mwyaf poblogaidd sydd wedi’u cysylltu â pharthau .cymru a .wales yw ‘eco’, ‘holiday’ a ‘hire’, sy’n enghraifft o sut mae’r sector twristiaeth yma wedi gwneud y gorau o’r enwau.
Ac mae’n debyg mai’r cyfenwau mwyaf poblogaidd sydd wedi cofrestru ar y parth yw Jones, Evans a Williams.
Bydd digwyddiad yn y Cynulliad heddiw i nodi blwyddyn ers sefydlu’r parth, yng nghwmni Ieuan Evans MBE, Cadeirydd Grŵp Cymru, Russell Haworth, Prif Weithredwr y cwmni sy’n rhedeg y parth, Nominet a’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC.
“Mynd â Cymru i’r byd”
“Fel yr ydym yn symud i fyd fwyfwy ar-lein, mae .cymru a .wales yn sicrhau bod Cymru yn sefyll allan yn ddigidol,” meddai Ken Skates AC.
“Mae’r newyddion ein bod yn cystadlu gyda’n cymdogion a’n bod nawr yn y 10 Uchaf yn Ewrop yn wych i wlad mor fach, ynghyd â’r newyddion bod geiriau fel ‘holiday’ a ‘hire’ ymysg y geiriau mwyaf poblogaidd i’w cofrestru.
“Mae .cymru a .wales yn cynnig presenoldeb ar wahân i ni ar y rhyngrwyd, gan fynd a Cymru i’r byd ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y parthau yn parhau ar y llwybr yno.”
“Cartref ar-lein i bobol, hunaniaeth ac iaith Cymru”
Yn ôl cwmni Nominet, mae’r enw wedi cynnig “cartref ar-lein” ar y we i Gymru, “sy’n cynrychioli pobol, hunaniaeth ac iaith Cymru am y tro cyntaf yn hanes y rhyngrwyd.”
“Mae’r croeso i .cymru a .wales wedi bod yn anhygoel. Mae’n wych gweld bod busnesau, unigolion a sefydliadau ar hyd a lled Cymru wedi cofrestru er mwyn dathlu eu hunaniaeth gyda chwsmeriaid Cymraeg a’r iaith Gymraeg,” meddai Russell Haworth, Prif Swyddog Gweithredol Nominet.
Deg Uchaf Parthau Daearyddol Ewrop
- .london
- .berlin
- .bayern
- .cologne & .koeln (cyfunol)
- .amsterdam
- .hamburg
- .paris
- .cymru & .wales (cyfunol)
- .wien
- .scot