A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion ddydd Mawrth (Tachwedd 19), mae Llywodraeth Cymru wedi ategu eu hymrwymiad i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu dynion yn y gymdeithas sydd ohoni.

Nod y diwrnod yw cydnabod gwerth dynion i’w teuluoedd a’u cymunedau, a’r heriau penodol maen nhw’n eu hwynebu.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Dynion eleni oedd modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu eu hymrwymiadau a sut aethon nhw ati i wireddu’r nod.

Lles

Ymhlith ymdrechion y Llywodraeth mae ymrwymiad i dargedu’r problemau lles meddyliol mae dynion yn eu hwynebu.

Mae dynion yng Nghymru yn dal i fod dair gwaith yn fwy tebygol na menywod o ladd eu hunain.

Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o wynebu unigrwydd ac unigedd cymdeithasol.

Fel rhan o’u Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ceisio mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol sy’n medru arwain at ddynion yn dod â’u bywydau i ben, a chynnig cymorth amlasiantaethol i’r rheiny sy’n dioddef.

Mae’r broses ymgynghori ar y strategaeth newydd bellach wedi’i chwblhau, ac mae disgwyl cyhoeddi cynllun cyflawni yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fydd yn cynnwys cefnogaeth i’r elusen Men’s Sheds Cymru, sy’n gyfrifol am hyrwyddo cysylltiad, sgwrsio a chreu, gan wella lles a lleihau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn cefnogi Cynllun Dyn gan yr elusen Cymru Ddiogelach, sy’n amddiffyn ac yn cefnogi pob dyn, gan gynnwys dynion hoyw, heterorywiol, deurywiol a thrawsryweddol sydd wedi profi cam-drin domestig yng Nghymru.

Modelau rôl

Yn ogystal, wrth nodi thema’r ŵyl eleni, mae’r Llywodraeth wedi cyfeirio at eu hymdrechion i annog modelau rôl cadarnhaol i fechgyn a dynion ifainc.

Fis Gorffennaf y llynedd, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch Sound, oedd yn ceisio cynyddu cyfranogiad dynion mewn sgyrsiau am berthnasau iach fyddai’n herio ymddygiadau niweidiol, yn enwedig tuag at fenywod.

Yn rhan o’r ymgyrch hon, mae rhai o enwogion mwyaf dylanwadol Cymru wedi bod yn trafod eu hagweddau a’u hymdrechion i weithredu gwrywdod cadarnhaol.

Yn eu plith mae Ben Davies, Joe Morrell a David Brooks – tri o chwaraewyr pêl-droed Cymru gafodd sgwrs yn yr ystafell newid am yr hyn y gall dynion ei wneud i helpu menywod i deimlo’n ddiogel yn gyhoeddus.

Cafodd y cynnwys hwn ei ddarlledu fel rhan o raglenni teledu gemau rhagbrofol Cymru ar gyfer yr Ewros.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi pwysleisio dylanwad modelau rôl cadarnhaol yn y gymuned, ac nid dim ond yn y cyfryngau.

Maen nhw’n annog dynion hŷn i fod yn llysgenhadon i ddynion ifainc yn eu cymunedau, er mwyn dangos sut mae meddu ar wrywdod cadarnhaol.

Galw am normaleiddio sgyrsiau am emosiynau dynion

“Gall fod yn anodd agor i fyny,” medd Sage Todz