Bryn Terfel
Bydd gŵyl gelfyddydol ryngwladol yn cael ei lansio yng Nghaerdydd yn yr haf, a fydd yn cynnwys perfformiadau gan Charlotte Church, Bryn Terfel a Van Morrison ar y cyd a chyngerdd noson agoriadol gyda John Cale a Gwenno Saunders.
Nod Gŵyl y Llais, sy’n cael ei chynnal gan Ganolfan Mileniwm Cymru, yw trawsnewid y brifddinas i fod yn un o ganolfannau gwyliau celfyddydol mwyaf Ewrop.
Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal rhwng 3 a 12 Mehefin hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Georgia Ruth, Gwyneth Glyn a Scritti Politti.
Bydd cynyrchiadau newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Opera Genedlaethol Cymru hefyd.
Meilyr Jones, gynt o Race Horses, fydd yn cefnogi John Grant yn ystod ei berfformiad ar 9 Mehefin, a bydd Van Morrison a Bryn Terfel yn perfformio ar y cyd ar Fehefin 7.
Bydd y canwr opera byd-enwog hefyd yn perfformio dau gyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ystod yr ŵyl.
Lleoliadau ledled y ddinas
Yn ogystal â’r Ganolfan, mae’r lleoliadau mawr a fydd yn rhan o’r ŵyl yn cynnwys canolfan Chapter, Neuadd Dewi Sant, y Theatr Newydd, Tramshed a Sherman Cymru, gan gynnwys rhai lleoliadau llai ledled y brifddinas.
Bydd clwb nos pop-yp hefyd yn cael ei lansio yng Nghanolfan y Mileniwm, a fydd yn cynnwys perfformiadau byw, DJs a diodydd o bob math.
Ymddiriedolaeth Colwinston, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a rhoddion preifat sy’n ariannu’r prosiect newydd.
‘Dathlu holl ystod tirlun cerddorol cyfoethog Cymru’
“Mae Cymru yn falch o’i thraddodiad canu yn fwy na dim arall,” meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru a Chyfarwyddwr yr ŵyl.
“Roedden ni eisiau mynd â’r traddodiad yma mor bell ymlaen ag y gallen ni, gan wasgaru llawenydd y gân ar hyd gorwelion Caerdydd a gwahodd y byd i ddod i ganu gyda ni ac i rannu emosiwn drwy’r ffurf buraf yma ar fynegiant artistig a mynegiant dynol.
“Ond, ar yr un pryd, rydyn ni am sicrhau bod yr ŵyl yn dathlu holl ystod tirlun cerddorol cyfoethog Cymru – o’r corau meibion a’r Gymanfa Ganu i artistiaid ifanc Cymraeg fel Gwenno, Georgia Ruth a Meilyr Jones fydd yn rhan o’r rhaglen ochr yn ochr â John Cale, Van Morrison a’u tebyg.”
Mae tocynnau bellach ar werth o wefan yr ŵyl.