Y Preifat Cheryl James
Mae milwr wedi gwadu cael rhyw gyda milwr ifanc arall 18 oed y cafwyd hyd iddi gyda bwled yn ei phen ym Marics Deepcut yn Surrey.
Dywedodd y Preifat Ian Atkinson ei fod ef a’r Preifat Cheryl James wedi “cusanu – a dyna’r cwbl” a hynny unwaith yn unig.
Mae’r cwest i farwolaeth Cheryl James o Langollen ym mis Tachwedd 1995 wedi clywed gan filwr arall, Mark Beards, bod y Sarjant Andrew Gavaghan wedi ei gorchymyn i fynd i ystafell gyda’r Preifat Atkinson er mwyn cael rhyw, ar y noson cyn iddi farw.
Ond dywedodd Ian Atkinson wrth Lys y Crwner yn Woking eu bod nhw wedi bod yn yfed yn y bar ac yna wedi “cusanu, a dyna’r cwbl. Nid aeth dim pellach. Dim ond cusan oedd e. Roedd hynny tuag wythnos neu ddwy cyn marwolaeth Cheryl.”
Ychwanegodd ei fod wedi cael “sioc” o glywed am honiadau Mark Beards am y tro cyntaf y llynedd. “Dw i ddim yn deall pam y byddai e wedi gwneud hyn.”
Roedd y Preifat Cheryl James yn un o bedwar o filwyr ifanc i farw yn y gwersyll hyfforddi yn Surrey dros gyfnod o saith mlynedd.
‘Jôc’ am roi gwn at ei phen
Yn gynharach dywedodd trydanwr a oedd wedi bod yn gwneud gwaith yn Deepcut bod y Preifat James wedi gwneud jôc am roi gwn at ei phen.
Dywedodd Keith Grieg bod Cheryl James a rhai o’r milwyr benywaidd eraill wedi bod yn son am eu dyhead i adael y Fyddin.
Mewn datganiad wrth y cwest, dywedodd y trydanwr: “Dywedodd Cheryl wrtha’i mai’r unig ffordd i adael oedd rhoi gwn i’ch pen, ond dywedodd hynny fel jôc.”
Roedd pawb “wedi chwerthin” meddai.
Ychwanegodd ei fod yn ei chofio fel person “hapus a doniol a oedd yn hawdd dod ymlaen a hi.”
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio tan yfory.