Fe fydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru’n gallu cael prydau ysgol am ddim o’r wythnos hon.

Bellach, mae cyflwyno’r rhaglen fesul cam wedi’i gyflawni ledled Cymru, sy’n golygu bod pob plentyn hyd at Flwyddyn 6, gan gynnwys Blwyddyn 6, yn gallu cael pryd ysgol am ddim bob diwrnod ysgol erbyn hyn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi pennu’r ymrwymiad hwn yn 2021, a hynny’n rhan o’u hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi plant.

Ers ei lansio, mae bron i 30m o brydau bwyd wedi’u darparu, ac mae’r rhaglen newydd hon yn rhoi hawl i 176,000 yn fwy o ddysgwyr i bryd ysgol am ddim.

Manteision

Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ac yn hyrwyddo bwyta’n iach.

Mae ganddyn nhw’r potensial hefyd i wella sgiliau cymdeithasol yn ystod amser bwyd, gan gynnwys helpu i wella ymddygiad a chyrhaeddiad dysgwyr.

Mae’r awdurdodau lleol hefyd wedi’u cefnogi a’u hannog i ddod o hyd i fwyd yn lleol, lle bo hynny’n bosibl.

Mae gwaith ar y gweill i adolygu Rheoliadau sy’n nodi’r mathau o fwyd a diod mae modd eu darparu yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys diffinio cynnwys maethol prydau ysgol.

“Mae pryd ysgol iach yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn teimlo’n llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol,” meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.

“Ac mae hynny’n eu helpu i ganolbwyntio, o fudd i’w lles, ac yn eu galluogi i gyflawni eu potensial llawn.

“Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn cynnig cymorth sy’n cael ei groesawu’n fawr gan deuluoedd ac yn helpu i drechu tlodi plant.

“Mae hwn yn achlysur hollbwysig i blant yma yng Nghymru.

“Rwy’n hynod falch mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd.”

‘Cam pwysig’

“Rydyn ni’n sicrhau na fydd unrhyw blentyn ysgol gynradd yn teimlo’n llwglyd yn yr ysgol, ac rwy’n ddiolchgar i’n hawdurdodau lleol a’n hysgolion am helpu i wireddu hyn,” meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Rwy’ wedi gweld y gwahaniaeth y mae’r cynnig hwn eisoes wedi’i wneud i blant a theuluoedd yn uniongyrchol.

“Mae hwn yn sicr yn gam pwysig yr ydyn ni wedi’i gymryd i fynd i’r afael â thlodi plant, a byddaf yn parhau i weithio i sicrhau bod gennym ni’r cynnig bwyd ysgol gorau yn y Deyrnas Unedig.”