Mae cyllid gwerth £7.7m wedi cael ei neilltuo er mwyn uwchraddio Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru.

Daeth cadarnhad o’r cyllid heddiw (dydd Mercher, Medi 4) gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ac fe ddaw wrth i’r ganolfan nodi 30 mlynedd ers ei sefydlu.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau yn y ganolfan ragoriaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, sy’n gwasanaethu poblogaeth o ddeg miliwn o bobol – o Aberystwyth i Rydychen.

Mae’r ganolfan yn rhoi gofal arbenigol i fwy na 1,000 o bobol bob blwyddyn – eu hanner nhw’n blant – ac yn eu plith mae pobol sydd wedi diodde’r llosgiadau mwyaf difrifol.

Mae pobol â llosgiadau sy’n dod o bellach i ffwrdd hefyd yn cael eu hanfon i Abertawe i gael triniaeth a gofal.

Bydd y £7.7m yn creu tri chiwbicl llosgiadau a dau giwbicl gofal dwys cyffredinol ym mhrif uned gofal dwys Ysbyty Treforys, yn ogystal â chael ei ddefnyddio i wneud newidiadau i un o’r theatrau presennol er mwyn trin mwy o gleifion sydd â llosgiadau.

Mae’r ciwbiclau llosgiadau yn ystafelloedd sy’n arbenigol iawn, lle mae modd rheoli’r tymheredd yn fanwl a lleihau’r perygl heintiau.

‘Un o wasanaethau mwyaf a phrysuraf Ewrop’

“Yn ystod ei 30 o flynyddoedd, mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru wedi ennill enwogrwydd fel un o wasanaethau mwyaf a phrysuraf Ewrop wrth iddi roi gofal rhagorol i filoedd o bobol,” meddai Mark Drakeford.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau y bydd y ganolfan yn gallu parhau i sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion a staff, drwy ei chyfleusterau o ansawdd uchel a’i gallu i ddenu a chadw staff talentog a phroffesiynol – er mwyn helpu i achub mwy o fywydau, yn gyflym ac yn ddiogel.”

Mae mwy na 6,500 o bobol sydd angen llawdriniaeth blastig – oherwydd trawma, haint a chanser yn aml iawn – yn cael eu trin bob blwyddyn yn y ganolfan.

“Mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn darparu gofal ar gyfer llosgiadau difrifol i boblogaeth dros ddeg miliwn yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, a bydd yn aml yn derbyn cleifion gofal dwys o bob rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai Dean Boyce, llawfeddyg ymgynghorol ar gyfer llawdriniaeth blastig yn Ysbyty Treforys.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn golygu y bydd y cleifion llosgiadau sydd fwyaf sâl yn parhau i gael y gofal gorau posibl.

“Mae Abertawe erioed wedi bod yn un o’r canolfannau llosgiadau gorau yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r datblygiad hwn yn sicrhau y bydd ei rhagoriaeth yn parhau.”