Mae pobol ifanc dan 30 oed yn hapus i dalu mwy i siopa yn Gymraeg, yn ôl ymchwil newydd.
Mae ymchwil gan yr economegydd Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor yn dangos bod 70% o bobol 20-29 oed yn fodlon talu pris uwch am gynnyrch neu wasanaeth Cymraeg.
Ymhlith pobol hŷn, dydy’r ganran ddim mor uchel – 46% o bobol dros 50 oed ddywedodd eu bod nhw’n fodlon talu mwy am wasanaeth Cymraeg.
Cafodd yr ymchwil ei gynnal ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd, ac yn ôl Dr Edward Jones, mae’n “dangos bod gan y Gymraeg rôl bwysig i’w chwarae mewn busnes”.
“Gall y Gymraeg fod yn fantais gystadleuol i fusnesau, gyda phobol ifanc yn barod i dalu mwy am wasanaeth neu gynnyrch yn eu mamiaith,” meddai.
“Mae cymaint o fusnesau yn cystadlu am gwsmeriaid, felly mae bod yn wahanol, hyd yn oed yn unigryw, yn bwysicach nag erioed.
“Mae datblygu pwynt gwerthu unigryw (USP) yn allweddol, ac yma yng Nghymru gall defnyddio a chefnogi’r Gymraeg ddarparu’r pwynt gwerthu unigryw hwnnw i fusnesau.”
Ychwanega fod y perchnogion busnes gafodd eu holi’n gweld y Gymraeg fel “mantais gystadleuol” sy’n gallu denu pobol o bell ac agos.
“Mae ymwelwyr a phobol leol fel ei gilydd yn gwerthfawrogi’r defnydd o’r Gymraeg; roedd mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr yn ffafrio deunydd marchnata dwyieithog, ac roedd pobol ifanc yn barod i dalu mwy am gynnyrch neu wasanaeth yn eu mamiaith,” meddai.
“Mae hyn yn dystiolaeth i gwmnïau bod y galw yno, a bod modd gwneud arian o weithredu yn y Gymraeg.”
‘Helpu busnes i ffynnu’
Mae canlyniadau’r arolwg wedi cael eu croesawu gan Zoe Pritchard, sy’n gweithio yn ymgynghoriaeth fusnes Lafan ar Ynys Môn.
Mae Lafan yn hyrwyddo ymgyrch Bwrlwm ARFOR, sy’n ceisio annog busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg yng Ngwynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn.
“Gall rhoi’r Gymraeg wrth galon ei gweithrediadau helpu busnes i ffynnu a darparu gyrfaoedd i’n pobol ifanc fel nad ydyn nhw’n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw symud i ffwrdd,” meddai Zoe Pritchard.
“Mae arolwg Dr Jones yn dangos bod y Gymraeg yn iaith fyw a pherthnasol, ac y gall fod â gwir fanteision masnachol i gwmnïau, yn enwedig ar draws y pedair sir.
“Rydym am greu digon o sŵn a bwrlwm o gwmpas annog busnesau bach a mawr i ddefnyddio’r Gymraeg, gan ganolbwyntio ar y rhai ar draws y pedair sir sy’n gwneud defnydd da o’r iaith sy’n ei defnyddio gyda hyder a balchder.
“Maen nhw’n cynnig gwasanaeth gwych, maen nhw’n cyflogi staff sy’n siarad Cymraeg, ac i’r sector twristiaeth mae’n bwynt gwerthu unigryw, ac os nad ydyn ni’n defnyddio’r Gymraeg neu os nad yw’r iaith yn cael ei gweld neu ei chlywed yn weithredol mewn siopau a busnesau ar draws ardal ARFOR, yna mae’n debyg ein bod ni ar ein colled fel economi.”
Roedd ARFOR Dau yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru, ac mae’n dilyn rhaglen ARFOR gafodd ei lansio yn 2019.