Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad angheuol rhwng car a beic modur ger Port Talbot neithiwr.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Corsa du a beic modur du ar yr A4063 ar Ffordd Maesteg, Croeserw, am 8.05yh nos Fawrth, 23 Chwefror.
Bu farw gyrrwr y beic modur o’i anafiadau.
Mae Heddlu’r De yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r cerbyd yn cael ei yrru cyn y digwyddiad.
Bu’r ffordd ynghau am bedair awr wrth i’r heddlu ymchwilio i’r gwrthdrawiad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111.