Mae elusen gafodd ei sefydlu yn 2013 er cof am ddyn fu farw o fath prin o ganser yn dathlu degawd o helpu pobol heddiw (dydd Llun, Awst 19).

Bob blwyddyn, mae teulu Matthew Walklin yn cynnal diwrnod Hwyl yr Haf i godi arian ar gyfer yr elusen Make a Smile Foundation.

Mae amrywiaeth o stondinau, bwyd, gweithgareddau a cherddoriaeth byw yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd, ac mae’r holl arian sy’n cael ei godi’n mynd tuag at yr elusen i helpu cleifion canser a’u teuluoedd.

Pwy yw Matthew Walklin?

Cafodd Matthew Walklin ddiagnosis o fath anarferol o ganser y ceilliau ym mis Mai 2010.

Cafodd e nifer o driniaethau gwahanol, gan gynnwys cemotherapi a radiotherapi, ac fe gafodd e brinchoscopi a mediastinoscopi pan ddaeth o hyd i lwmp rhwng ei ysgyfaint.

Cafodd e ddwy lawdriniaeth, ond bu farw’n 28 oed yn 2012.

Dywed ei deulu ei fod e wedi bod yn “ysbrydoliaeth” iddyn nhw i gyd yn ystod ei salwch.

“Dangosodd gymaint o gryfder, dewrder, ac ymdeimlad cryf o ysbryd oedd heb ei ail,” meddai ei chwaer Jo Walkin-Poole wrth golwg360.

“Roedd Matthew yn teimlo’n gryf am y ffaith fod doctoriaid, ymgynghorwyr a nyrsys yn gofalu amdanoch chi o’ch gên i lawr.

“Ond mae yna gyfrifoldeb ar y claf i ofalu am eu meddwl a’u meddyliau, sef yn fwy na thebyg ran anoddaf y broses.”

Roedd yn awyddus i sefydlu elusen sy’n ffocysu ar ofalu am iechyd meddwl pobol sy’n mynd trwy driniaeth.

“Er na ellir gwneud cemotherapi’n haws, nod yr elusen hon yw helpu tynnu meddwl y cleifion oddi ar yr hyn sy’n digwydd, a gwneud iddyn nhw wenu wrth fynd trwy’r driniaeth,” meddai ei chwaer wedyn.

“Yr elusen hon yw ei waddol.”

Sut mae’r elusen yn helpu pobol?

Dros y blynyddoedd, mae’r elusen wedi rhoi dodrefn, gemau, dyfeisiau electronig a llawer mwy i sefydliadau amrywiol, gan gynnwys Canolfan Felindre, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Uned Canser Plant Ysbyty Prifysgol Cymru a mwy.

Yn ddiweddar, mae’r elusen wedi cynnal prosiect garddio gwirfoddol yn Felindre, sy’n cynnig hafan i bobol sy’n ymweld â’r ganolfan ganser.

Yn ogystal, rhoddodd yr elusen aromasticks a thiwbiau mewnanadlu olew hanfodol i’r Tîm Therapi Amgen yn Felindre, i’w defnyddio gyda chleifion.

Eleni, mae Diwrnod Hwyl yr Haf wedi denu dros 100 o bobol, gan godi dros £1,000.

“Gyda phob digwyddiad rydyn ni’n eu cynnal, y mwyaf balch rwy’n teimlo y gallwn gyflawni dymuniadau fy mrawd i ddod â gwên i gleifion canser a’u teuluoedd,” meddai Jo Walklin-Poole wedyn.

‘Diwrnod anhygoel’

Mae golwg360 hefyd wedi bod yn siarad â Sarah Taylor, sy’n mynychu’r digwyddiad eleni am y trydydd tro.

“Rwy’n credu bod y diwrnod hwn yn anhygoel,” meddai.

“Fel rhywun sy’n mynd trwy ganser fy hun, dw i’n gwybod faint mae’r elusen yma’n gwneud gwahaniaeth i’r rhai sydd eu hangen.

“Rwy’n sylwi ar eu rhoddion o amgylch Felindre, ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am yr elusen drwy’r dudalen Facebook Matthew Walklin Make a Smile Foundation.