Mae torri’r terfyn cyflymdra i 20m.y.a. yn “drosiad ar gyfer diffyg uchelgais yng Nghymru”, yn ôl cyn-strategydd cyfryngau Boris Johnson.

Fe fu Guto Harri yn siarad â golwg360 ar Faes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd, gan feirniadu tirwedd wleidyddol Cymru.

Dywed mai dim ond trwy “rannu’r uchelgais sydd gan bobol fel fi y gall Cymru fod lot gwell a sefyll ar ei thraed ei hun”.

“Ac os ydym yn sefyll ar ein traed ein hunain, fedrwn ni wedyn ddechrau’r drafodaeth am sefyll ar ein traed ein hunain o safbwynt gwleidyddol ac economaidd,” meddai.

Gweledigaeth, nid “cheap shots

Mae Guto Harri yn feirniadol o gyflwr y Ceidwadwyr Cymreig, gan ddweud bod rhaid cael mwy o “weledigaeth” yn hytrach na “cheap shots”.

“I’r Blaid Geidwadol yma yng Nghymru, mae angen gweledigaeth lle mae’r adolygiad sylfaenol yn seilio’i hun ar sut mae creu’r golud, y swyddi a’r arian a’r trethi sydd eu hangen i alluogi ni i gael gwasanaethau cyhoeddus cryf,” meddai.

“Mae rhaid cymryd Cymru o’r lle trafferthus hwn i lefel uwch.”

‘Breuddwyd gwrach’

Wrth droi ei sylw at Blaid Cymru, dywed eu bod nhw wedi “mynd yn woke” dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae rhaid dweud bod Plaid Cymru llawer cryfach pan oedd hi o dan arweiniad dyn o gefndir llawer mwy masnachol ac adain dde,” meddai.

“Roedd Dafydd Wigley wedi cael addysg breifat ac yn swyddog ariannu i gwmni rhyngwladol, a dyna pryd oedd Plaid Cymru ar ei chryfa’.

“Does yna ddim dyfodol i Blaid Cymru tra maen nhw i’r chwith o’r Blaid Lafur.

“Mae Rhun yn gyfathrebwr neilltuol, ac mae e wedi cael etholiad cryf, er eu bod nhw wedi gorffen lan efo’r un nifer o seddi ag yn 2019.

“Ond mae angen newid sylfaenol ar strategaeth Blaid Cymru.

“Mae rhaid i Blaid Cymru ailfeddwl eu pwrpas i beidio sgorio gôl un tric fel dweud mai nhw sydd yn gyfrifol am benderfyniadau Llafur i roi mwy o fudd-daliadau neu brydau bwyd am ddim i bobol dlawd.

“Pwrpas Plaid Cymru yw mynd â Chymru yn nes at sefyllfa lle gallai hi freuddwydio a chynllunio, o bosib, i sefyll ar ei thraed ei hun.

“A does yna ddim byd ar hyn o bryd yn strategaeth Plaid Cymru sydd yn awgrymu dydi o ddim byd mwy na ryw fath o freuddwyd gwrach.”