Mae’r BBC wedi gofyn i Huw Edwards ddychwelyd £200,000 – y swm roedd y darlledwr wedi’i ennill yn y cyfnod rhwng cael ei arestio a phledio’n euog i fod â delweddau anweddus o blant ar WhatsApp.
Cafodd ei arestio fis Tachwedd y llynedd, ond doedd e ddim wedi ymddiswyddo tan yn gynharach eleni.
Yn ôl y BBC, roedd e wedi pledio’n euog i “drosedd erchyll”, gan “danseilio ymddiriedaeth” yn y Gorfforaeth.
Fydden nhw ddim wedi parhau i dalu ei gyflog pe baen nhw’n ymwybodol o’r sefyllfa pan gafodd ei holi ganddyn nhw, meddai llefarydd.