Mae Dirprwy Brif Weinidog newydd Cymru’n annog pobol i ddefnyddio’u Cymraeg, waeth beth fo safon eu hiaith.

Dywed Huw Irranca-Davies ei fod yn edrych i fyny i chwaraewyr rygbi sy’n defnyddio’r iaith, dim ots beth yw safon eu Cymraeg.

“Dwi’n gweld chwaraewyr rygbi ar ochr y cae yn defnyddio’u Cymraeg nhw,” meddai wrth golwg360 ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd.

“Mae rhai ohonyn nhw efo Cymraeg perffaith, a’r lleill ddim ac yn siarad math o Wenglish.

“Mae’n bwysig annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg ac i beidio poeni am fod yn berffaith – go for it!”

Cymraeg ym Mhontypridd – a’r Siambr

Dywed Huw Irranca-Davies ei fod yn gweld a chlywed llawer o Gymraeg “yn y marchnadoedd” ym Mhontypridd hefyd.

“Mae llawer o bobol yn cerdded ar draws y maes a’r dref yn siarad Cymraeg, a tipyn bach o Saesneg hefyd,” meddai.

Ychwanega ei fod yn falch o fod ar y maes efo’r Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan, er mwyn cefnogi’r iaith.

“Mae e’n bwysig iawn i ddod yma heddi efo Eluned Morgan yn ei swydd newydd, y Prif Weinidog, ac i wneud hynny er mwyn cefnogi’r iaith.

“Ac yn hynny o beth, yr iaith ledled Cymru.

“Does yna ddim no go areas.

“Mae rhaid i ni ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned, sef yn y siopau, ar y strydoedd…

“Dw i’n defnyddio fy Nghymraeg yn y Siambr yn y Senedd mwy a mwy.

“Dydi fy Nghymraeg ddim yn berffaith o gwbl, ond dw i’n joio defnyddio’r Gymraeg.

“Dyddiau yma, mae pobol yn fwy parod i ddefnyddio’r Gymraeg.”