Eluned Morgan yw Prif Weinidog Cymru – y ddynes gyntaf i dderbyn y swydd.
Cafodd ei phenodiad ei gadarnhau yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Awst 6).
Mae hi’n olynu Vaughan Gething, oedd wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad ffurfiol i Charles, Brenin Lloegr, ddoe (dydd Llun, Awst 5).
Enillodd Eluned Morgan 28 o bleidleisiau, tra bod Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi derbyn pymtheg, ac roedd deuddeg pleidlais i Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.
Ad-alw’r Senedd
Cafodd y Senedd ei had-alw er mwyn cadarnhau’r penodiad, yn dilyn ymddiswyddiad ffurfiol Vaughan Gething ar ôl pedwar mis yn unig yn y swydd.
Roedd modd i Aelodau’r Senedd fwrw eu pleidlais o bell, gyda rhai ohonyn nhw dramor ar hyn o bryd.
Yn dilyn sawl helynt yn ystod ei gyfnod wrth y llyw – gan gynnwys diswyddo’r gweinidog Hannah Blythyn a derbyn rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan gwmni dyn gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol – roedd yr ysgrifen ar y mur i Vaughan Gething.
Fe ddaeth dan gryn bwysau ar ôl i bedwar o’i weinidogion ymddiswyddo o’r Cabinet, gan ddweud eu bod nhw wedi colli ffydd ynddo fel arweinydd.
Cyn hynny, roedd disgwyl iddo fe aros yn ei swydd tan fis Medi.
Eluned Morgan oedd yr unig ymgeisydd i’w olynu, a chyflwynodd hi ei hymgyrch i redeg ochr yn ochr â Huw Irranca-Davies, fydd yn dod yn Ddirprwy Brif Weinidog.
Y drefn bleidleisio
Yn ystod y bleidlais, fe wnaeth pob Aelod o’r Senedd ddatgan enw yn eu tro.
A hithau’n unig Aelod ei phlaid yn y Senedd, fe wnaeth Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, atal ei phleidlais.
Fe wnaeth Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac unig gynrychiolydd ei phlaid yn y Senedd, atal ei phleidlais, ynghyd ag Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) a Carolyn Thomas (Llafur).
Doedd dim hawl gan Elin Jones, y Llywydd, na David Rees, ei Dirprwy, i fwrw pleidlais.