Mae’r cyflwynydd tywydd Siân Lloyd wedi syrthio ar ei bai, ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi ‘camddeall’ polisi iaith tafarn yng Nghonwy.
Mewn neges ar X (Twitter gynt), sydd bellach wedi cael ei dileu, roedd hi wedi cyhuddo tafarn y Blue Bell o wahardd cwsmeriaid rhag canu yn Gymraeg.
Ond mae’r dafarn wedi ymateb gan ddweud nad oes hawl gan gwsmeriaid ganu mewn unrhyw iaith ar adegau pan fo’r dafarn yn brysur â phobol yn bwyta.
‘Taflu pobol allan’
Yn ei neges wreiddiol, roedd Siân Lloyd yn honni bod ffrindiau wedi cael eu “taflu allan” o dafarn y Blue Bell “am ganu yn eu mamiaith”.
Dywedodd ei bod hi’n “anodd credu bod y fath dafarn ddychrynllyd yng Nghymru”, gan annog pobol “naill i ganu nerth ein pennau neu eu boicotio nhw”.
Aeth yn ei blaen i’w cyhuddo nhw o fod ag “agwedd gywilyddus” tuag at y Gymraeg, ac fe leisiodd eraill eu pryderon am y sefyllfa wrth ymateb i’w neges.
Cafodd ei neges ei gweld degau o filoedd o weithiau, a chafodd y dafarn wybod amdani gan dafarn leol arall.
Wrth ymateb, eglurodd y dafarn fod y criw wedi cael cais i dawelu ar ôl iddyn nhw ganu’r anthem genedlaethol, ond fod y canu wedi parhau ac felly eu bod nhw wedi cael cais i adael.
Ond dywed y landlord fod rhywrai wedi troi’n gas.
Camddealltwriaeth
Buan y daeth i’r amlwg fod Siân Lloyd wedi camddeall y sefyllfa.
Eglurodd Jared Dunn eu bod nhw wedi gwahardd canu mewn unrhyw iaith fel bod cwsmeriaid yn teimlo’n “gyfforddus” wrth fwyta.
“Mae’r rheol yn bodoli i bawb, nid dim ond i un garfan,” meddai.
Wrth i’r canu ddechrau eto, meddai’r landlord, roedd hi fel pe bai’r criw yn ceisio “corddi” staff y dafarn.
Ychwanegodd fod croeso i unrhyw un ddod i ganu ar nosweithiau penodol sy’n cael eu trefnu ganddyn nhw.
Wrth ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Siân Lloyd ei bod hi’n “ymddiheuro” bod y ffrae yn parhau, a’i bod hi wedi cael “sgwrs bositif” â’r landlord gan edrych ymlaen at “symud ymlaen mewn ffordd adeiladol”.
Dywed ei bod hi wedi ymddiheuro, a’i bod hi’n “siomedig” ynghylch y ffordd mae staff y dafarn wedi cael eu “targedu’n hollol annerbyniol” yn sgil ei sylwadau.
Mae hi’n galw am “roi’r gorau i’r fath ymddygiad o gasineb ar unwaith”.
“Roeddwn i wir yn teimlo bod fy neges wreiddiol yn amddiffyn y Gymraeg, ac yn eithaf tafod-yn-y-boch, gan obeithio dechrau sgwrs….” meddai.
“Yn amlwg, fe wnes i gamddeall y sefyllfa, a’r hwyliau, a wnaeth hynny ddim digwydd.
“Roeddwn i’n anghywir, a dw i wedi cael fy nghywiro.
“Mae’n ymddangos bellach nad yr hyn ddywedwyd wrtha i am y digwyddiad oedd y stori lawn.
“Ar ddiwedd y dydd, doeddwn i ddim yno a ddylwn i ddim bod wedi ymateb mor reddfol ac amddiffynnol ar sail sïon.
“Am hynny, ymddiheuriadau diffuant.
“Sut fath o newyddiadurwr ydw i?!
“A’m llaw ar fy nghalon, dw i’n ffieiddio wrth feddwl am achosi pryder i unrhyw fusnes bach (yn eironig, fy mheth mawr ar y cyfryngau cymdeithasol yw #VocalForLocal) ac am yr holl ddryswch, atgasedd a rhagfarn achosodd fy neges dwyllodrus.
“Eironi arall, dw i wedi treulio fy mywyd yn eirioli dros gynhwysiant o ran y Gymraeg, felly gallwch chi ddychmygu gymaint mae hyn wedi effeithio arnaf a’m tristhau.
“Ag edifeirwch, alla i ddim ond dychmygu beth mae hyn wedi ei wneud i chi.
“Rwy’n gobeithio’n fawr fod unrhyw niwed yn niwed tymor byr, ac yn dymuno’r gorau i chi’ch dau yng ngham nesaf eich bywydau.”