Mae’r cynlluniau hirddisgwyliedig ar gyfer ysgol newydd yn Llanelli yn cael eu datblygu, ac mae disgwyl i safle gael ei ddewis, yn ôl arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

Dywed y Cynghorydd Darren Price ei fod yn gobeithio y bydd adroddiad ynghylch y safle gorau ar gyfer Ysgol Dewi Sant ar ei newydd wedd, ynghyd ag amserlen, yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae bron i 500 o ddisgyblion, o Swiss Valley i lawr i Fachynys, yn mynd i’r ysgol ar Rodfa Bryndulais, gan gynnwys plant dosbarth meithrin.

Cynlluniau

Cafodd y cynlluniau i adeiladu ysgol newydd ar dir hamdden Llanerch eu cyhoeddi gan y Cyngor nifer o flynyddoedd yn ôl, gyda naw safle dan ystyriaeth i ddechrau, er mwyn ateb y galw am addysg Gymraeg ac am nad oedd yr ysgol bresennol yn cyrraedd rhai o safonau’r Cyngor.

Ond roedd gwrthwynebiad i’r cynnig gwerth £9.1m ar gyfer Llanerch.

Fe geisiodd ymgyrchwyr warchod y tir hamdden drwy statws tir pentref, ond roedden nhw’n aflwyddiannus.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r cynllun ar gyfer Ysgol Dewi Sant fis Mai 2018, ond cafodd ei ohirio tra bod gweinidogion yn ystyried pryderon trigolion am lifogydd a materion eraill.

Fis Ionawr 2020, fe wnaeth y Cyngor Plaid-Annibynnol roi’r gorau i’r cynllun yn dilyn trafodaethau â llywodraethwyr a staff yr ysgol.

Wrth siarad ar y pryd, dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Addysg, na fu’n benderfyniad hawdd a bod y Cyngor yn ymwybodol o ba mor rwystredig fyddai hyn i rieni, disgyblion a staff.

“Rydyn ni eisiau bwrw ymlaen â’r cynllun hwn mor gyflym â phosib, ac rydym eisoes yn edrych ar safleoedd amgen,” meddai.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y Cyngor wedi gwario £592,364 yn datblygu a symud cynllun cae Llanerch yn ei flaen.

‘Blaenoriaeth’

Fwy na phedair blynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth y Cynghorydd Rob James, sy’n amhleidiol, ofyn i’r Cynghorydd Darren Price mewn cyfarfod ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 29) pa gynnydd a wnaed o ran ysgol newydd i Ysgol Dewi Sant.

Dywedodd arweinydd Grŵp Plaid Cymru’r Cyngor fod ysgol newydd yn flaenoriaeth, a bod y gwaith gyda Llywodraeth Cymru a’r rheoleiddiwr amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau yn y cefndir.

Roedd swyddogion y Cyngor wedi edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer safleoedd a chost.

Unwaith gafodd safle ei gadarnhau, bydd cynlluniau’n cael eu datblygu ymhellach a chais am arian gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno, meddai’r Cynghorydd Darren Price.

“Pe bai materion yn parhau yn ôl y cynllun, rydym yn gobeithio cael adroddiad i’r Cabinet cyn diwedd y flwyddyn hon yn amlinellu’r opsiynau ar gyfer safle dewisiedig ac amserlen yn cael ei chynnig.”

Dywedodd arolwg o Ysgol Dewi Sant gan Estyn yn 2017 fod yr adeiladau’n peri heriau yn nhermau darparu amgylchedd dysgu priodol ar gyfer nifer y disgyblion a’r gweithgareddau sydd ar gael, ond ychwanegodd eu bod nhw’n ddiogel.