Cyhoeddodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mai Lisa Evans, myfyrwraig BA Addysg Gynradd gyda SAC o Lambed yw enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2024.

Bu Norah Isaac yn Brif Ddarlithydd Drama a’r Gymraeg yng Ngholeg Drindod Caerfyrddin gan ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr.

Gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, trefnwyd bod Lisa Evans yn derbyn y wobr mewn derbyniad ar gampws Caerfyrddin yn ystod y seremonïau.

Dywedodd Meryl Darlithydd Addysg Gychwynnol Athrawon o’r Drindod Dewi Sant bod “angerdd a brwdfrydedd Lisa dros bopeth Cymraeg a Chymreig yn ysbrydoliaeth i’w chyfoedion ar draws y Brifysgol dros y tair blynedd ddiwethaf.

“Llysgennad penigamp”

“Fel Llywydd y Gymdeithas Gymraeg bu’n llysgennad penigamp wrth hybu’r Gymraeg a Chymreictod, ac mae wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau parhad i’r Gymdeithas ac yn cydnabod y pwysigrwydd o’i fodolaeth i’r Brifysgol.

“Gweithiodd yn ddiwyd hefyd i drefnu sesiynau hyfforddi a gweithgareddau cymdeithasol yn enw’r Gymdeithas a hynny trwy gyfwng y Gymraeg neu’n ddwyiethiog.”

Meddai Lisa fod yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn iddi a’i fod yn “fraint ac yn anrhydedd i dderbyn y wobr” ac “roedd cael y cyfle i hybu’r iaith Gymraeg ar gampws Gaerfyrddin yn fythgofiadwy trwy ail gydio yn y gymdeithas Gymraeg i fod yn gymdeithas gadarn ar gyfer y dyfodol.”