Mae Heddlu De Cymru a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad ar ôl i weithiwr gael ei ladd mewn digwyddiad ar safle ailgylchu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Atlantic Recycling yn Nhredelerch, Caerdydd brynhawn dydd Llun (8 Gorffennaf) ac wedi bod yno hyd at 8yh.

Mae’n debyg bod y dyn fu farw yn gontractwr oedd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y safle.

Dywed Heddlu’r De bod teulu’r dyn wedi cael gwybod.

Rheolwyr y safle yw Grŵp Amgylcheddol Dauson.