Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhwydwaith o lyfrgelloedd teganau ledled Cymru.
Yn ôl ymchwil, mae rhieni a gofalwyr yn gwario tua £300 ar deganau bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Mae llawer o’r rhain wedi’u gwneud o blastig. Gyda’r rhan fwyaf o blastig yn cael ei wneud o olew, fe all gyfrif am oddeutu 20% o’r holl ddefnydd byd-eang o olew erbyn 2050.
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, mae gan lyfrgelloedd teganau eu rhan i’w chwarae wrth leihau gwastraff, lleihau’r defnydd o blastig, lleihau allyriadau hinsawdd, a hefyd arbed arian i rieni, gofalwyr a theuluoedd.
Maen nhw bellach wedi sefydlu deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phob grŵp perthnasol yng Nghymru i gyflwyno rhwydwaith cenedlaethol o lyfrgelloedd teganau.
‘Defnyddiol yn y gymuned’
Gall teganau plant fod yn ddrud ac maen nhw’n aml yn cael eu defnyddio am gyfnod byr yn unig.
Maen nhw’n aml yn cael eu taflu i ffwrdd hefyd, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi torri.
Bwriad y llyfrgelloedd teganau yw rhoi benthyg teganau i blant a theuluoedd am gyfnod, er mwyn lleihau gwastraff di-angen a chadw costau’n isel i rieni a gofalwyr.
“Mae’r rhai o’r teganau rydych chi’n eu prynu o ansawdd gwael ac yn torri, ac yn diweddu lan mewn safle tirlenwi,” meddai Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear wrth golwg360.
“Ond mae nifer o deganau o ansawdd gwell yn ddrud iawn, ac fel mae plant, maen nhw’n benderfynol o gael y tegan penodol hwn ac yn chwarae gyda’r tegan am gyfnod cyn diflasu a gadael i’r tegan fod.
“Dyma le fyddwn ni’n gweld llyfrgell teganau yn ddefnyddiol yn y gymuned.
“Yn amlwg byddai rhieni a gofalwyr yn dal i wario rhywfaint o arian ar deganau, ond gall hyn arbed arian iddyn nhw.
“A byddai’n grêt gweld llai o deganau yn diweddu lan mewn safleoedd tirlenwi, a helpu i ddefnyddio llai o blastig yn y pen draw wrth beidio prynu gymaint o deganau.”
Cynnig mwy o amrywiaeth o deganau a chysylltiad rhwng y gymuned
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, gall llyfrgelloedd teganau hefyd gynnig ffordd sefydledig o helpu i ddarparu mynediad i lawer o deganau na fyddai plant fel arall yn dod ar eu traws oherwydd cost, neu hyd yn oed cyfyngiadau gofod hyd yn y cartref.
“Gallai hyn ddarparu mwy o amrywiaeth o deganau i blant gael eu defnyddio,” meddai Bleddyn Lake wedyn.
“Er enghraifft, dw i’n bersonol wedi defnyddio llyfrgell teganau er mwyn cael sleid yn yr ardd ar gyfer y plant dros un haf, achos ro’n i’n gwybod mai diddordeb dros dro fyddai e ac nad oedd angen i ni brynu un.
“Roedd y llyfrgell teganau yn ddefnyddiol iawn i ni.”
Mae hefyd yn credu y gallan nhw greu mwy o gyswllt ymysg cymunedau drwy leoli’r llyfrgelloedd teganau mewn neuaddau pentref neu lyfrgelloedd lleol.
“Gallan nhw weithio’n dda ar gyfer cysylltu pobol, yn enwedig mewn cymunedau cefn gwlad lle does gan rieni a gofalwyr ddim yr un cyfleoedd i ddod at ei gilydd a byddan nhw mewn dinas,” meddai.
Llyfrgell teganau yn ffynnu yng Nghaerdydd
Ar hyn o bryd, mae’n debyg mai dim ond tair llyfrgell teganau sydd yng Nghymru, gydag un o’r rhain ond yn rhoi benthyg i ysgolion a grwpiau gofal.
Ar ôl gorfod cau ei siop deganau yn dilyn y pandemig, mae Maia Banks o Gaerdydd bellach wedi rhoi ei holl stoc i lyfrgell teganau mae hi’n ei rhedeg yng Nghaerdydd.
Sefydlodd y ddynes 38 oed sesiwn aros a chwarae wythnosol, lle gall teuluoedd lleol gwrdd a benthyca teganau yn ardal Grangetown yn y brifddinas.
Diolch i £17,808 o gyllid drwy’r Loteri Iechyd, mae hi’n gallu cynnal sesiwn ychwanegol ar gyfer teuluoedd ifanc bob wythnos, yn ogystal â chyflwyno system briodol ar gyfer benthyca teganau.
“Mae fy llyfrgell deganau i’n gymysgedd o deganau a gefais gan bobol eraill a theganau a brynais fy hun,” meddai.
“Mae rhai wedi dechrau colli eu graen, mae rhai yn ddrud iawn ac mae rhai wedi costio pum punt.
“Cyn belled nad ydyn nhw’n syrthio’n ddarnau neu’n anniogel, yn ddi-os fe fydd rhywun yn siŵr o’u mwynhau.
“Mae rhedeg llyfrgell deganau yn brofiad gwerthchweil.
“Rydych yn creu rhywle pwysig lle gall y gymuned chwarae, ond hefyd rydych yn sicrhau bod y teganau’n cael eu rhoi yn nwylo plant yn hytrach nag mewn safleoedd tirlenwi.
“Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi arloeswyr brwd ein llyfrgelloedd teganau.”
Dros y ffin
Wrth edrych dros y ffin, mae’n stori wahanol, medd Bleddyn Lake.
“Pan wyt ti’n edrych yn Lloegr, mae ganddyn nhw lwyth ohonyn nhw, felly am ryw reswm maen nhw’n gwneud yn well yn Lloegr,” meddai.
“Pam nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru? Beth yw’r rhesymau y tu ôl i hyn?”
Dywed Cyfeillion y Ddaear Cymru y byddai hyn yn helpu ffocws Llywodraeth Cymru ar yr ‘hawl i chwarae’ i blant a’r ‘economi gylchol’.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn weddol am ddelio gyda rhai pethau fel delio gyda phlastig a’r economi gylchol.
“Byddai hyn yn eu helpu gyda’u gwaith yn y meysydd hyn.
“Maen nhw eisoes yn helpu ariannu pethau fel caffis trwsio, sy’n grêt, felly pam ddim edrych ar hyn fel rhywbeth ychwanegol y gallan nhw ei wneud?”