“Pam ydych chi’n dal yma?”
Dyna’r cwestiwn wynebodd Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 11).
Daeth y cwestiwn gan y Ceidwadwyr Cymreig, wedi i’r Prif Weinidog golli pleidlais hyder yn ei erbyn yr wythnos ddiwethaf.
Collodd e’r bleidlais – nad oedd yn rhwymol – o 29 i 27, ar ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno’r cynnig, ac yn sgil cefnogaeth Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth ddatgan diffyg hyder ynddo.
Ers hynny, mae Vaughan Gething wedi mynnu na fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd.’
Dros yr wythnosau diwethaf, mae wedi wynebu sawl helynt, gan gynnwys derbyn a gwrthod ad-dalu £200,000 gan droseddwr amgylcheddol i’w ymgyrch arweinyddol, a diswyddo Hannah Blythyn, yr Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol, yn dilyn honiadau iddi ryddhau negeseuon am Covid-19 i’r wasg.
‘Oedd hi’n ddadl ddifrifol neu oedd hi’n gimmick?’
Wrth ymddangos yn ei sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog gyntaf ers y bleidlais, gofynnodd Darren Millar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, iddo, “Pam ydych chi’n dal yma?”
“Does gennych chi ddim hyder y Senedd hon a dylech chi barchu pob pleidlais sydd wedi’i chymryd gan Aelodau o Senedd Cymru, nid dim ond y rhai rydych chi’n cytuno â nhw.”
Ymatebodd Vaughan Gething i gwestiwn blaenorol Darren Millar ar yr economi, ond soniodd e ddim am y bleidlais.
Er mwyn ceisio mynnu ateb, camodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i’r adwy.
“Oedd hi’n ddadl ddifrifol neu oedd hi’n gimic?” gofynodd.
Roedd y Prif Weinidog wedi disgrifio’r cam fel “gimic enbyd” gan y Ceidwadwyr yn ystod ymgyrch ar gyfer etholiad cyffredinol.
Dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi cymryd y ddadl, a’r bleidlais ddilynodd, o ddifrif.
“Cafodd y bleidlais ei chynnal, a’r canlyniad yw’r canlyniad,” meddai.
“Nawr, mae angen i mi edrych ar y dyfodol a beth mae hynny’n ei olygu am yr ychydig wythnosau rwy’ wedi bod yn Brif Weinidog a’r ffordd yr wyf am arwain fy ngwlad i’r dyfodol a’r angen i fagu hyder ar draws y siambr hon a derbyn yn y realiti fy mod yn sefyll yma fel y Prif Weinidog sydd angen gweithio gyda phobol eraill i wneud i’r sefydliad weithio,” meddai.
“Rwy’ wedi ymrwymo i ymddwyn mewn ffordd sy’n caniatáu i’r sefydliad hwn barhau i ddiwallu anghenion pobol yng Nghymru, i barchu’r dewisiadau maen nhw’n eu gwneud yn y blwch pleidleisio, ac i feddwl am yr holl bethau y gallwn eu gwneud o hyd i wneud Cymru’n lle hyd yn oed yn well i’r holl gymunedau mae’n fraint gennym eu cynrychioli yma.
“Byddaf yn parhau i ddadlau dros y dyfodol y gallem ei gael, y dyfodol rwy’ am i ni ei gael ar ôl Gorffennaf 4, y dyfodol y byddaf yn hapus i ddadlau drosto, ac yr holl ffordd drwodd i etholiadau’r Senedd yn 2026 – Senedd ddiwygiedig i bobol Cymru.
“Ac nid yn unig y record fydd gennym o’r ddwy flynedd nesaf, ond cyfnod datganoli, a’r hyn rydym wedi’i wneud dros ein gwlad mewn partneriaeth ag eraill yma a thu hwnt.
“Dyna fyddaf i’n ei wneud, ac rwy’n falch iawn o barhau i gyflwyno’r achos hwnnw.”
Beio newyddiadurwyr
Mae’n ymddangos, wrth ymateb i ddiswyddo Hannah Blythyn, fod y Prif Weinidog hefyd wedi beio newyddiadurwyr am eu sylw i’w wythnosau gyntaf yn y rôl, gan ddweud ei fod yn difaru “sut y cafodd yr holl beth ei adrodd”.
“Mae’n ddrwg gen i am y ffordd mae’r tri mis diwethaf wedi cael sylw ac wedi cael eu hadrodd, ac rwy’n gresynu effaith y dewis wnes i o fewn yr holl reolau ar y pryd,” meddai.
“Fyddwn i ddim eisiau i mi nac unrhyw un o fy nghydweithwyr orfod mynd trwy hynny eto.
“Rwy’n cydnabod fod difrod gwirioneddol wedi’i achosi i ystod o bobol yma.”
Fe wnaeth y cyn-newyddiadurwr Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ofyn ai’r ffordd y cafodd y stori ei hadrodd oedd y broblem wirioneddol.
“Rwy’n gyn-newyddiadurwr, rwy’n aelod o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, a ydych chi’n beio newyddiadurwyr am hyn?” gofynnodd.
“Ydych chi’n beio aelodau’r gwrthbleidiau am y ffordd y gwnaethon ni bleidleisio yn y bleidlais honno’r wythnos ddiwethaf?”
“Un o’r heriau wrth wneud dewisiadau fel arweinydd yw bod yn rhaid i chi nid yn unig feddwl beth yw’r dewis cywir,” meddai’r Prif Weinidog wrth ateb.
“Ond mae’n rhaid i chi hefyd ystyried mai dim ond chi sy’n gallu gwneud y penderfyniad, ac mae’n rhaid i chi ystyried a chydbwyso ystod o ganlyniadau gwahanol.”
Wrth wneud y penderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn, meddai, roedd e wedi derbyn cyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol i wneud yn siŵr ei fod yn gweithredu o fewn y Cod Gweinidogol.