Mae heddluoedd Cymru wedi cyhoeddi eu canlyniadau yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu hyd yn hyn.

Mae Dafydd Llywelyn wedi dal ei afael ar ei rôl yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, tra bod Llafur wedi cadw eu rolau yn Ne Cymru, Gogledd Cymru a Gwent.

Jane Mudd, arweinydd Cyngor Casnewydd, sy’n olynu Jeff Cuthbert yng Ngwent, tra bod Emma Wools yn fuddugol yn Ne Cymru a bydd hi’n olynu Alun Michael ar ôl bod yn ddirprwy iddo.

Yn Heddlu’r Gogledd, mae Andy Dunbobbin (Llafur) hefyd yn cael aros yn ei rôl.

Ar y cyfan, tua un ym mhob pump o’r boblogaeth oedd wedi pleidleisio yn yr etholiadau ledled Cymru.

Dafydd Llywelyn yn parhau yn ei rôl

Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, mae Dafydd Llywelyn wedi cadw ei rôl yn enw Plaid Cymru.

Dyma’i drydydd tymor wrth y llyw, yn dilyn ei fuddugoliaethau blaenorol yn 2016 a 2021.

Dyma’r canlyniadau:

  • Justin Mark Griffiths (Democratiaid Rhyddfrydol) 7,719
  • Ian Harrison (Ceidwadwyr Cymreig) 19,134
  • Dafydd Llywelyn (Plaid Cymru) 31,323
  • Philippa Thompson (Llafur) 18,353

Llafur yn cadw Gwent

Jane Mudd (Llafur) sydd wedi’i hethol yn ardal Heddlu Gwent, un o’r ddwy fenyw gyntaf i gael eu hethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru, gyda 41.7% o’r bleidlais.

Mae hi’n olynu Jeff Cuthbert, sydd wedi penderfynu camu o’r neilltu ar ôl cael ei ailethol am ail dymor yn 2021.

Dyma’r canlyniadau:

  • Jane Mudd (Llafur) 28,476
  • Hannah Jarvis (Ceidwadwyr Cymreig) 21,919
  • Donna Cushing (Plaid Cymru) 9,864
  • Mike Hamilton (Democratiaid Rhyddfrydol) 8,078

Heddlu’r De yn nwylo Llafur o hyd

Emma Wools o’r Blaid Lafur sydd wedi ennill y ras yn ardal Heddlu’r De, gan olynu Alun Michael.

Penderfynodd ei rhagflaenydd na fyddai’n sefyll am bedwerydd tymor.

Dyma’r canlyniadau:

  • Sam Bennett (Democratiaid Rhyddfrydol) 17,908
  • George Carroll (Ceidwadwyr) 43,344
  • Dennis Clarke (Plaid Cymru) 27,410
  • Emma Wools (Llafur) 73,128

Llafur yn cadw Heddlu’r Gogledd

Mae Andy Dunbobbin wedi ennill yn y Gogledd, gan gadw ei rôl am dymor arall.

Dyma’r canlyniad:

  • Andy Dunbobbin (Llafur) – 31,950
  • Brian Jones (Ceidwadwyr Cymreig) 26,281
  • Ann Griffith (Plaid Cymru) 23,466
  • Richard Marbrow (Democratiaid Rhyddfrydol) 7,129