Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi dweud na fydd e’n comisiynu cyngor pellach nac ymchwiliad i roddion sylweddol i’w ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru.
Mae e dan y lach am dderbyn £200,000 gan gwmni Dauson Environmental Group, yr oedd eu pennaeth wedi’i gael yn euog o droseddau amgylcheddol, ac mae pryderon newydd am fenthyciad o £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru i’r cwmni i brynu fferm solar.
Yn ôl Dauson, doedd yr arian gan Fanc Datblygu Cymru ddim wedi’i roi i ymgyrch Vaughan Gething, oedd yn Weinidog yr Economi ar y pryd.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y byddan nhw’n ymateb i bryderon Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, “yn y ffordd arferol”.
Mae Carwyn Jones wedi’i benodi i gynnal arolwg Llywodraeth Cymru o ymgyrchoedd arweinyddol, sy’n cynnwys rhoddion ariannol.
Ond mae Plaid Cymru hefyd yn galw am ymchwiliad annibynnol.
Daw hyn ar ôl i Jeremy Miles, gwrthwynebydd Vaughan Gething yn ras arweinyddol Llafur Cymru, ddweud na fyddai wedi derbyn y rhodd pe bai e yn yr un sefyllfa.
Roedd Vaughan Gething wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le, a chafodd hynny ei ategu gan ei ragflaenydd Mark Drakeford, oedd yn dweud nad oedd e wedi torri’r Cod Gweinidogol.
Ond mae Andrew RT Davies yn mynnu bod y sefyllfa’n gyfystyr â gwrthdaro buddiannau sy’n torri’r Cod, a bod rhaid cynnal ymchwiliad.
“Doedd dim gwrthdaro buddiannau fyddai wedi fy atal i rhag derbyn cyfraniad i’m hymgyrch arweinyddol,” meddai’r Prif Weinidog.
‘Slebogeiddiwch San Steffan’
Yn ôl Plaid Cymru, mae perygl i “slebogeiddiwch” San Steffan gyrraedd Cymru yn sgil y sefyllfa.
Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd y Blaid, wedi galw o’r newydd am ymchwiliad annibynnol, gan ddweud na all Prif Weinidog Cymru lywyddu dros ei ymddygiad ei hun a bod democratiaeth Cymru’n cael ei thanseilio.
“Yn drist iawn, mae slebogeiddiwch wedi cael ei normaleiddio yng ngwleidyddiaeth San Steffan dros y degawdau diwethaf, sydd wedi pardduo ein democratiaeth,” meddai.
“Yn drist iawn, mae bellach yn bygwth codi’i ben yng ngwleidyddiaeth Cymru drwy’r saga rhoddion yma sy’n parhau i ddominyddu wythnosau cynta’r Prif Weinidog Llafur yn ei swydd.
“Naill ai roedd y Prif Weinidog yn gwybod am gollfarnau’r rhoddwr a meddwl dim byd ohonyn nhw, neu fe wnaeth o fethu â chwblhau camau diwydrwydd dyladwy.
“All Mr Gething ddim jest gobeithio y bydd rhoi het dun ar y peth yn gwneud i’r mater fynd i ffwrdd.
“Mae’r datgeliad fod Dauson mewn dyled i Fanc Datblygu Cymru – sydd dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru – wedi codi pryderon pellach, ac mae’n mynd at galon gweithrediadau’r llywodraeth.
“Mae’r Cod Gweinidogol yn glir. Rhaid i weinidogion sicrhau nad oes gwrthdaro yn codi, neu’n ymddangos fel pe bai’n codi, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a’u buddiannau preifat.
“A ddylai gweinidogion ddim derbyn unrhyw rodd na lletygarwch all ymddangos, neu beidio, fel pe bai’n peryglu eu crebwyll.
“Dw i’n credu bod y trothwy hwnnw wedi’i gyrraedd, a dyna pam y gwnes i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am ymchwiliad annibynnol llawn ac i’r casgliadau gael eu cyhoeddi.
“Dw i’n meddwl y byddai gan y cyhoedd ychydig iawn o hyder mewn proses lle mae’r Prif Weinidog yn gweithredu fel barnwr a rheithgor yn ei achos ei hun.
“Bellach, mae’r Prif Weinidog wedi comisiynu un o’i ragflaenwyr, Carwyn Jones, i gwblhau arolwg o’r rheolau ynghylch rhoddion yn eu rasys arweinyddol.
“Er mwyn tryloywder, mae’n drueni bod y Prif Weinidog wedi dewis rhywun oddi mewn i’r blaid yn hytrach na rhywun heb gysylltiad â Llafur i gynnal yr arolwg hwnnw – ond o leiaf mae yna obaith na fydd Carwyn Jones yn dal yn ôl, ar ôl iddo alw’r rhoddion yn “anffodus” o’r blaen a honni bod gan y Prif Weinidog “wersi i’w dysgu”.
“Dywedodd y Prif Weinidog diwethaf nad oedd ras arweinyddol Llafur yn fusnes i mi.
“Mae’r cyfan oll yn dangos ei fod yn fusnes i BAWB ohonom – yn y pen draw, y Blaid Lafur ddewisodd y Prif Weinidog hwn, felly yn y cyd-destun hwnnw mae’n rhaid i’r Prif Weinidog ymrwymo i gyhoeddi casgliadau’r adolygiad.”