Dim ond un diwrnod sydd ar ôl i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim, ar gyfer pleidleiswyr nad oes ganddyn nhw fath o arall o ID gaiff ei dderbyn mewn gorsaf bleidleisio.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn galw ar unrhyw un sydd angen yr ID am ddim ar gyfer etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sydd i ddod i wneud cais nawr, cyn y dyddiad cau, sef 5 o’r gloch brynhawn fory (dydd Mercher, Ebrill 24).

Mae dros 38,000 o bobol yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr cyn yr etholiadau ar Fai 2, pan fydd angen ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio.

‘Sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan’

Mae ymchwil y Comisiwn yn dangos mai pobol sy’n ddi-waith, pobol ag anableddau, a phobol o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is sydd leiaf tebygol o fod â math o ID gaiff ei dderbyn, ac felly dylen nhw wneud cais am yr ID pleidleisiwr am ddim.

“Mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am yr ID pleidleisiwr am ddim yn prysur agosáu a dylai unrhyw un sydd ei angen anfon eu cais i mewn cyn gynted ag y gallan nhw,” meddai Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil y Comisiwn Etholiadol.

“Mae’r ID am ddim yn helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn etholiadau mis Mai, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw ar hyn o bryd fath o ID ffotograffig gaiff ei dderbyn.

“Nid yw’r broses ymgeisio yn cymryd yn hir, ac mae gwybodaeth a chymorth ar gael gan y Comisiwn Etholiadol a’ch awdurdod lleol.

“Ac os oes gennych chi ffrindiau neu deulu nad oes ganddyn nhw ar hyn o bryd fath o ID ffotograffig gaiff ei dderbyn, rhannwch yr wybodaeth.”

Mae modd cyflwyno cais am yr ID am ddim ar-lein, neu drwy lenwi ffurflen bapur a’i hanfon at dîm gwasanaethau etholiadol y cyngor lleol.

Bydd angen i bleidleiswyr ddarparu llun, enw llawn, dyddiad geni, y cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru i bleidleisio, a rhif Yswiriant Gwladol.

Rhaid i ymgeiswyr eisoes fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais.

Dylai pleidleiswyr sydd â chwestiynau ynghylch gwneud cais am yr ID am ddim gysylltu â’u hawdurdod lleol.